Dewis – Chwilio am wasanaethau lleol

Dewis Cymru yw’r lle i gael gwybodaeth am les yng Nghymru.
Mae gennym wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, ynghyd â gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol a all eich helpu!


Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich lles – neu eisiau gwybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall.

Pan fyddwn yn siarad am eich lles, nid ydym yn golygu eich iechyd yn unig. Rydyn ni’n golygu pethau fel; ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan, a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Nid oes unrhyw ddau berson yr un fath ac mae lles yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Felly, mae Dewis Cymru yma i’ch helpu i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae gennym wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, ac mae gennym wybodaeth hefyd am bobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut i ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i weithio allan beth sy’n bwysig i chi, cliciwch yma.

Os oes gennych wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u lles, gallwch ychwanegu eich manylion at Dewis Cymru, fel y gall y bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi ddod o hyd i chi yn haws. Does dim ots pa mor fawr neu fach ydych chi, neu a ydych chi’n wirfoddolwyr – os ydych chi’n helpu pobl gyda’u lles, mae Dewis Cymru eisiau gwybod amdanoch chi ac am yr hyn rydych chi’n ei wneud, fel y gallwn ni roi pobl mewn cysylltiad â chi!

Chwilio am Wasanaethau Gofal Plant

Caiff y cynlaidau ei ddarparu gan Dewis Cymru. Dilynwch am fwy o wybodaeth am Dewis Cyrmu.

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button