Teuluoedd yn Gyntaf

prev
next
play
pause

Teuluoedd yn Gyntaf

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth ac arweiniad i deuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. Nod y rhaglen yw helpu teuluoedd i fod yn hyderus, yn feithringar ac yn wydn.

Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan Deuluoedd yn Gyntaf yn canolbwyntio ar rianta a chymorth i bobl ifanc.

Mae prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio gyda theuluoedd i weld beth sy’n gweithio’n dda a phenderfynu pa gymorth ychwanegol sydd ei angen ar deulu i ffynnu.

Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf:

Rhianta a Chymorth i Deuluoedd:

Gwybodaeth a Chefnogaeth i Rieni a Gofalwyr

Cymorth i Bobl Ifanc:

Cymorth o ran anableddau:

thumbnail of 2018-23 Carmarthenshire Family Support Strategy CYMCymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23

Mae Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23 yn amlinellu sut fyddwn yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau ymyriadau cynnar i gefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ar unrhyw adeg ym mywyd plentyn, o’r blynyddoedd cynnar ac ymlaen i’r arddegau.

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button