Cefnogaeth Teuluoedd

Ar ba bynnag ffurf y maent, teuluoedd yw ased mwyaf gwerthfawr Sir Gaerfyrddin a nhw yw’r ffactor pwysicaf wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn hapus, yn iach, yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth i gyflawni eu potensial llawn.

Mae Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn nodi sut y byddwn yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar i gefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin ar unrhyw adeg ym mywyd plentyn, o’r blynyddoedd cynnar hyd at yr arddegau.

Mae’n amlinellu ein nodau, ein hegwyddorion a’r polisïau sy’n cyfeirio ein gwaith, yn ogystal â phrif raglenni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi teuluoedd ar draws ystod o anghenion.

Cliciwch ar y llun i ddarganfod mwy

Cyngor ar Gostau Byw

Prisiau ynni, petrol a bwyd cynyddol; mae’r argyfwng costau byw presennol yn effeithio ar bawb. I’ch helpu i wynebu biliau a chostau cynyddol, rydym wedi llunio’r tudalennau hyn i roi adnoddau, dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol am gostau byw.

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button