prev
next
play
pause

Y Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc

Y Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc

Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc

Gofalwyr Ifanc yw plant neu bobl ifanc dan 18 oed sy’n gofalu am rywun yn eu teulu sydd â salwch, anabledd, iechyd meddwl gwael neu broblemau camddefnyddio sylweddau. Efallai eu bod yn cyflawni cyfrifoldebau gofalu ymarferol a/neu emosiynol y byddai oedolyn yn eu gwneud fel arfer.

Yn aml gelwir gofalwyr ifanc rhwng 16 a 25 oed yn ofalwyr sy’n oedolion ifanc.

Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc yn Sir Gaerfyrddin

Mae sawl gwasanaeth sy’n cefnogi gofalwyr ifanc yn Sir Gâr. Mae’r holl wasanaethau’n cynnig cymorth unigol sy’n seiliedig ar yr anghenion a nodwyd gan bobl ifanc mewn asesiad.  Gall hyn gynnwys: cymorth 1-1, cymorth grŵp cyfoedion a/neu eiriolaeth.  Gallwn hefyd helpu i nodi cefnogaeth i’r person rydych yn gofalu amdano.

Manylion Cyswllt

Os ydych dan 18 oed ac yn gofalu am riant neu warcheidwad

Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin: 01554 742630/ 07812475470

E-bost: gwasanaethgofalwyrifanc@sirgar.gov.uk

Os ydych chi dan 18 oed ac yn gofalu am frawd neu chwaer

Gwasanaeth Blynyddoedd Addysgol Sir Gâr Rhif Ffôn: 0300 0200 002

E-bost: youngcarers@ctcww.org.uk

Os ydych chi rhwng 18 a 24 oed ac mewn rôl gofalu

Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin Ffôn: 0300 0200 002

E-bost: youngcarers@ctcww.org.uk

Os ydych yn 25+ oed ac yn ofalwr

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin: Rhif ffôn: 0300 0200 002

E-bost: info@ctcww.org.uk

Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc

Gall gofalwyr ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin wneud cais am garden adnabod y gallant eu defnyddio i brofi eu bod yn ofalwr ifanc. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol mewn ysgol/coleg, mewn apwyntiadau Meddyg Teulu, fferyllfeydd ac ati. Rydym yn gweithio ar geisio cael manteision ychwanegol i’r garden, megis gostyngiadau mewn rhai llefydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am y garden ar y ddolen isod

Gwarchod Data

Sicrhewch eich bod yn ateb yr holl gwestiynau gofynnol a’ch bod yn llofnodi’r ffurflen cyn ei hanfon atom. Bydd pob ffurflen lle mae gwybodaeth ar goll yn cael ei hanfon yn ôl atoch i’w chwblhau. Bydd hyn yn oedi eich cais.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio’r data yn y ffurflen hon er mwyn rhoi cerdyn adnabod Gofalwr Ifanc.  Ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion eraill ac ni chaiff ei rhannu â sefydliadau eraill.  Bydd data dienw yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion ystadegol.  Drwy gyflwyno’r cais hwn, rydych yn cytuno i’r wybodaeth gael ei defnyddio fel hyn.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn prosesu data, darllenwch ein hysbysiadau preifatrwydd yma: www.sirgar.llyw.cymru/

Gwneud cais am Gerdyn Gofalwr Ifanc

Cyn gwneud cais am Gerdyn Gofalwr Ifanc, darllenwch y telerau ac amodau a’r wybodaeth isod.

Telerau ac amodau:

  • Rhoddir y Cerdyn Gofalwr Ifanc i ofalwyr di-dâl sy’n 18 oed neu’n iau ac sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, neu sy’n helpu i ofalu am rywun sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin.
  • Gall Cyngor Sir Caerfyrddin ofyn o bryd i’w gilydd i’r Gofalwr Ifanc neu’r rhiant/gwarcheidwad ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth o rôl ofalu’r Gofalwr Ifanc, megis llythyr gan feddyg, ysgol neu dystiolaeth ategol briodol arall.
  • Mae’r Cerdyn Gofalwr Ifanc yn ddilys am 2 flynedd o’r dyddiad pan gaiff ei roi. Y rhiant/gwarcheidwad neu’r Gofalwr Ifanc sy’n gyfrifol am wneud cais i Uned Gofalwyr Cyngor Sir Caerfyrddin am adnewyddu’r cerdyn.
  • Mae defnydd o’r cerdyn yn amodol ar y telerau a’r amodau hyn.
  • Os yw rôl ofalu Gofalwr Ifanc wedi dod i ben, rhaid i’r rhiant/gwarcheidwad neu’r Gofalwr Ifanc roi gwybod i Gyngor Sir Caerfyrddin am y newid. Gall y Gofalwr Ifanc barhau i ddefnyddio’r cerdyn am 3 mis pellach, yna bydd yn rhaid dychwelyd y cerdyn i Gyngor Sir Caerfyrddin.
  • Mae Cardiau Gofalwyr Ifanc yn cynnwys ffotograff o’r gofalwr at ddibenion adnabod, cyfeirnod a dyddiad dod i ben. Defnyddir y Cerdyn Gofalwr Ifanc at ddibenion adnabod a dylai deiliad y cerdyn ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw ostyngiad neu wasanaeth a gynigir yn unig.
  • Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw’r hawl i newid golwg ac amodau’r Cerdyn Gofalwr Ifanc, neu dynnu’r cynllun Cerdyn Gofalwr Ifanc yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Os yw’r Cerdyn Gofalwr Ifanc ar goll neu wedi’i golli, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01554 742630 a gellir rhoi cerdyn newydd. Efallai y codir tâl bach am roi cardiau newydd.
  • Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw’r hawl i newid amodau a thelerau’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig o leiaf 30 diwrnod cyn gwneud unrhyw newidiadau o’r fath, gan roi manylion y newidiadau a wnaed.

Opsiynau Cerdyn

Gallwch ddewis y ddelwedd gefndir ar y cerdyn o’r 6 set isod neu gallwch anfon eich delwedd gefndir eich hun i’w defnyddio ar y cerdyn. Nodwch eich dewis yn y ffurflen isod.

Dewiswch cefndir eich hun (Canllawiau)

Darparwch ffotograff o ansawdd da (pen ac ysgwyddau) ohonoch chi i’w ddefnyddio ar y cerdyn. Gellir tynnu’r llun ar ffôn neu ddyfais arall.

Gallwch e-bostio ffotograff i gwasanaethgofalwyrifanc@sirgar.gov.uk neu bostio ffotograff gan ddefnyddio manylion y cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen hon. Os ydych yn postio ffotograff, ysgrifennwch eich enw a’ch dyddiad geni ar gefn y ffotograff.

Dylai’r ffotograff:

  • bod yn ffotograff lliw diweddar
  • bod ohonoch chi’n unig (dim pobl eraill nac anifeiliaid anwes)
  • cael ei dynnu yn erbyn cefndir golau
  • eich dangos yn wynebu’r camera gyda’ch pen a’ch ysgwyddau yn y llun
  • dangos eich wyneb llawn
  • eich dangos yng nghanol y ffotograff
  • dangos eich llygaid yn glir os ydych yn gwisgo sbectol, ac osgoi llewych ar y lensys

Ni ddylai’r llun:

  • eich dangos yn gwisgo het neu orchudd pen oni bai am resymau meddygol neu grefyddol
  • eich dangos gyda llygaid coch ffotograffig
  • eich dangos yn y pellter neu gyda phobl eraill yn y golwg
  • dangos pethau amhriodol neu anweddus
  • eich dangos gyda golwg wedi’i olygu neu’i addasu neu os yw hidlwr wedi’i ddefnyddio
  • dangos rhywun arall neu ddelweddau a warchodir gan hawlfraint

Manylion y Gofalwr Ifanc

Teitl
Cyfeiriad(Required)
MM slash DD slash YYYY
Rhyw(Required)
Beth yw prif iaith y Gofalwr Ifanc?(Required)
Ym mha iaith yr hoffai'r Gofalwr Ifanc gael gwybodaeth mewn negeseuon e-bost?
Ym mha iaith yr hoffai'r Gofalwr Ifanc gael gwybodaeth drwy’r post?
Pa iaith yr hoffai'r Gofalwr Ifanc ei defnyddio wrth siarad?

Y rôl ofalu

Faint o bobl mae'r Gofalwr Ifanc yn helpu i ofalu amdanynt?(Required)
Pwy mae'r Gofalwr Ifanc yn helpu i ofalu amdano? Dewiswch bob un sy'n berthnasol(Required)

Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc

A yw'r Gofalwr Ifanc yn derbyn cymorth ar hyn o bryd (neu wedi derbyn cymorth o'r blaen) gan unrhyw un o'r gwasanaethau canlynol:
Os nad ydy, a hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn

Os yw'r gofalwr ifanc o dan 16 oed, bydd angen i ni gysylltu â rhiant/gwarcheidwad i gael eu caniatâd ar gyfer y cais am Gerdyn Gofalwr Ifanc

Os yw'r gofalwr ifanc yn 16 oed neu'n hŷn, rhowch fanylion oedolyn y gallwn gysylltu ag ef am y cais os oes angen. Gallai'r person fod yn rhiant/gwarcheidwad neu'n weithiwr proffesiynol sy'n ymwybodol o'r rôl ofalu

Enw

Sut olwg fydd ar eich Cerdyn Gofalwr Ifanc

Gallwch ddewis y ddelwedd sy’n cynnig cefndir i’r cerdyn o’r 6 delwedd a ddangosir yma neu gallwch anfon eich delwedd eich hun i’w defnyddio ar y cerdyn

Dewiswch 1 opsiwn o'r rhestr isod
Rwyf am ddefnyddio fy nelwedd gefndir fy hun ar y cerdyn (gweler y cyfarwyddiadau ar dudalen we gofalwyr ifanc)

Gofynnir i chi lofnodi a dyddio’r ffurflen

MM slash DD slash YYYY

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button