prev
next
play
pause

Gofal Plant yn Ffrindiau Bach

Gofal plant yn Little Wizards

Gwasanaeth Gofal Plant

Mae gan blant rhwng 2 a 3 oed, sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, hawl i gael gofal plant wedi’i ariannu a hynny am ddeuddeg awr a hanner yr wythnos (dwy awr a hanner y dydd) o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 42 wythnos y flwyddyn.

Darperir gofal plant o ystod o gyfleusterau gofal plant, mewn canolfannau yn bennaf, gan gynnwys meithrinfeydd dydd preifat, Canolfannau Teulu, Grwpiau Chwarae a Chylchoedd Meithrin.

Children looking for creatures on their welly walk

Ffocws y lle gofal plant wedi’i ariannu yw’r plentyn, ac yn enwedig sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd i ddatblygu ei iaith a’i sgiliau cymdeithasol ac yn datblygu’n emosiynol ac yn gorfforol er mwyn bod yn barod i ddechrau’r ysgol, mewn lle gofal plant diogel.  Er mwyn cyflawni hyn, mae pob lleoliad yn cwblhau Proffiliau Cyfnod Sylfaen a Holiaduron Cryfderau ac Anawsterau, sy’n olrhain cynnydd datblygiadol pob plentyn.

Darpariaeth Gofal Plant

Mae gennym 24 o ddarparwyr gofal plant sy’n cynnwys lleoliadau Awdurdod Lleol, Preifat a Gwirfoddol ledled Sir Gaerfyrddin sy’n cael eu hariannu gan raglen Dechrau’n Deg.

Chwilio am Ofal Plant

I gael rhagor o wybodaeth am ofal plant, cysylltwch â ni drwy ffonio 01554 742447

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button