Gwarchodwyr plant
yn gofalu am hyd at 10 o blant rhwng 0 a 12 oed yn eu cartrefi eu hunain. Rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu harchwilio a’u rheoleiddio gan AGC (dolen i AGC). Maent yn gweithio yn y gymuned, felly gall plant fynd i gylchoedd chwarae/meithrin a grwpiau rhieni a phlant bach.  Rydym yn darparu hyfforddiant a chymorth i chi yn ystod y broses gofrestru a thrwy gydol eich gyrfa gwarchod plant. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Avril Rees, Swyddog Datblygu a Hyfforddi Gwarchodwyr Plant drwy ffonio 01267 246554.

thumbnail of process_cymraeg

Clybiau ar ôl ysgol/Clybiau gwyliau
yn darparu gwasanaeth gofal ar gyfer plant ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae clybiau ar ôl ysgol yn gallu bod yn gofrestredig neu’n anghofrestredig, gan ddibynnu ar oriau’r gwasanaeth a gynigir. Mae clybiau gwyliau sy’n gofrestredig ag AGC hefyd yn wasanaeth gwerthfawr ar gyfer plant yn ystod gwyliau ysgol.

Meddwl am sefydlu clwb? Gallwn eich cynorthwyo gan roi gwybodaeth ac arweiniad yn ystod y broses gofrestru a chymorth parhaus ar ôl hynny. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Terena Davies-Tommason, Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, drwy ffonio 01267 246785.

Mae clybiau brecwast am ddim yn cael eu rhedeg gan yr Awdurdod Lleol mewn rhai ysgolion yn y Sir. Ceir rhai clybiau brecwast sy’n codi tâl hefyd. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael rhagor o wybodaeth.

thumbnail of Why Choose Registered CIW Settings
thumbnail of Benefits of Registered Settings FOR CLUBS
Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button