prev
next
play
pause

Addysg

Addysg

Addysg

Y Cwriciwlwm i Gymru

Addysg Feithrin i Blant 3 a 4 oed: Canllaw i Rieni a Gofalwyr

 

Addysg Blynyddoedd Cynnar Am Ddim

A oes gennych blentyn dros 3 oed nad yw’n mynychu’r ysgol yn rhan-amser?

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i ddarpariaeth addysgol o ansawdd ym Mlynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen mewn lleoliad blynyddoedd cynnar cymeradwy, a hynny am ddim ar sail ran-amser o ddechrau’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd a chyn iddynt fynd i’r ysgol yn llawn-amser.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gynnig o leiaf 10 awr o addysg blynyddoedd cynnar am ddim i bob plentyn sy’n gymwys, a’i darparu mewn lleoliad cymeradwy.

Os nad yw eich plentyn wedi cael cynnig lleoliad rhan-amser yn yr ysgol, yna mae’n bosibl cynnig addysg am ddim mewn lleoliad cymeradwy nas cynhelir, a allai fod yn gylch chwarae neu’n feithrinfa ddydd.

Mewn lleoliad cymeradwy nas cynhelir, mae cyllid yn cynnig naill ai 2 awr y diwrnod dros 5 niwrnod yr wythnos, neu 2½ awr y diwrnod dros 4 diwrnod yr wythnos. Mae hyn ar gael ar gyfer y ddau dymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed. Ar ôl hyn bydd rhaid i chi wneud cais am le amser llawn yn ystod y tymor ysgol pan fydd pen-blwydd eich plentyn yn bedair oed.

Gweler y ddolen gyswllt isod i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am le mewn ysgol.

Gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed)

I weld rhestr o leoliadau cymeradwy nas cynhelir sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar yn eich ardal, cliciwch ar y ddolen isod:

Lleoliadau Nas Cynhelir Sir Gâr Hydref 23

Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Cyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar

Yn ystod y cyfnod a ariannwyd, rhaid i’r plentyn fod yn ei dymor cyntaf neu’i ail dymor ar ôl ei ben-blwydd yn 3 oed.

Bydd y plentyn yn mynychu lleoliad cymeradwy am o leiaf 4 awr yr wythnos.

– Nid yw addysg ar gyfer plant 3 oed ar gael yn yr ysgol yr ydych wedi gwneud cais iddynt am addysg amser llawn.

– Nid yw’r plentyn yn derbyn addysg mewn lleoliad arall.

Sut ydw i’n gwneud cais am Gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar?

  1. Cadarnhewch gyda’ch dewis leoliad fod ganddynt le ar gael i’ch plentyn.
  2. Cliciwch yma i gwblhau’r Cais am Gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar.

Ar gyfer pob tymor academaidd, mae ceisiadau gan rieni cymwys yn agor 6 wythnos cyn diwedd y tymor,  ar gyfer derbyn cyllid ar gyfer y tymor academaidd canlynol. Ar ôl cyflwyno eich cais bydd yr Adran Addysg yn cadarnhau gyda rhieni a’r darparwr gofal plant o fewn 10 diwrnod gwaith.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 diwrnod gwaith cyn dechrau’r tymor academaidd perthnasol.  Bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol.

 

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru

Yn ogystal â 10 awr yr wythnos o gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael 20 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir.  Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma


Os oes gennych ymholiadau am Gyllid Addysg y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch â Thîm y Blynyddoedd Cynnar drwy e-bost: nascynhelir@sirgar.gov.uk


Cwrs Arlein – Deall Lles a Iechyd Meddwl eich Plentyn

Mae wedi bod yn flwyddyn bryderus i lawer o oedolion, plant a phobl ifanc fel ei gilydd. Rydyn ni’n gwybod bod llawer ohonoch chi’n poeni am effaith y pandemig ar eich plant.

NEWYDD SBON!! Cwrs ar-lein ‘Deall lles a iechyd meddwl eich plentyn’ gan Solihull Approach (NHS).

Mynediad am Ddim

Oeddech chi’n gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi TALU YMLAEN LLAW i bob rhiant a gofalwr yng Nghymru gael mynediad at gwrs i rieni/gofalwyr (cofrestrwch nawr i gael mynediad gydol oes)? AM DDIM (gyda’r cod mynediad: SWSOL neu NWSOL  yn: www.inourplace.co.uk) ar gyfer preswylwyr yn ein hardal. Mae cyrsiau ar gyfer rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau am blant o bump i 19+ oed.

Sut mae cael mynediad am ddim?

Ewch i www.inourplace.co.uk a chofrestru, ac yna defnyddiwch SWSOL os ydych yn byw yn Ne a Chanolbarth Cymru a NWSOL os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru i gael mynediad am ddim at yr holl gyrsiau ar-lein (wedi’u hariannu ar gyfer preswylwyr): neu

Os ydych chi, fel llawer o rieni, eisoes wedi defnyddio’r cod hwn, mewngofnodwch i’ch cyfrif  yma a bydd y cwrs hwn yn barod yn eich dangosfwrdd i ddechrau pryd bynnag y byddwch chi’n barod.

A allaf ddweud wrth fy nheulu a’m ffrindiau?

Wrth gwrs! Rhannwch y newyddion gydag aelodau o’r teulu a theuluoedd eraill yn yr ardal fel y gallant hwythau hefyd fanteisio ar y cyfle gwych hwn.

Pa mor hir yw’r cwrs?

Mae ‘Understanding your child’s mental health and wellbeing’ yn ddwy ran (cyfanswm o 2 fodiwl):

1.   Dewiswch Ran 1...

2.   …yna dewiswch ‘Understanding your child’ NEU ‘Understanding your child with additional needs’ (11 modiwl – gyda phob un yn cymryd 10–15 munud i’w gwblhau, gan fanteisio ar amser i ymgyfarwyddo â’r cynnwys rhwng pob un)…

3.   …yna dewiswch Ran 2…

Os ydych yn hoffi hwn…

…efallai yr hoffech chi’r cyrsiau eraill ‘Understanding your teenager’s brain’ (cwrs byr) neu ‘Understanding your child’s feelings’ (cwrs blasu) , neu gyrsiau eraill yn y gyfres.  www.inourplace.co.uk

Rhestr o Linellau Cymorth ac Apiau Hunanofal ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a 4 (11-18 mlwydd oed)

thumbnail of Llinellau Cymorth ar gyfer disgyblion CA3 a 4 CORRECT 22.5.20 – Cynllun Ysgolion Iach

Rhestr o Linellau Cymorth ac Apiau Hunanofal ar gyfer disgyblion oed Cynradd (4-11 mlwydd oed)

thumbnail of Llinellau Cymorth ar gyfer Disgyblion yr Ysgol Gynradd – Support Lines for Primary aged Pupils CORRECT Cynllun Ysgolion Iach 8.6.20

Syniadau Dysgu Cartref

Addysg 3 oed yn Lleoliadau Sir Gâr.  Gweithgareddau i’w cynnal gyda’ch plant gartref.

thumbnail of Heini – Dewch i chwarae a dysgu – tedis (Heini Jones)

thumbnail of Heinin 2 -Dewch i chwarae a dysgu – ewch bananas – go bananas_

thumbnail of dewch i chwarae a dysgu – esgidiau esgidiau a rhagor o esgidiau 2

thumbnail of Dewch i chwarae a dysgu – dwr

 


 

Derbyn i Ysgolion / Newid Ysgol (Sir Gar)

Gwneud cais am:

  • gwneud cais am le mewn ysgol – plant 3 oed
  • gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
  • symud i ysgol uwchradd
  • newid ysgol

cliciwch ar y dolenni isod:

Derbyn i Ysgolion

Cynorthwyo Plant Milwyr yn ysgolion Cymru

Cyfamod Lluoedd Arfog

Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect y Cymorth i Addysg Plant Milwyr yng Nghymru gan:

Millie Taylor

Swyddog Prosiect Cymru dros Addysg Plant Milwyr

ssce@wlga.gov.uk

02920 468 616

https://www.sscecymru.co.uk

Mae addysg yn dechrau yn y cartref

Helpu plant i fod yn ‘barod i ddysgu’ pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol:

http://gov.wales/docs/dcells/publications/160711-ready-to-learn-leaflet-en.pdf

Llyfrau Llesol

Wyt ti’n teimlo’n drist? yn poeni? yn grac? Wyt ti’n cael dy fwlio? Neu’n teimlo’n genfigennus? Mae darllen y llyfrau cywir yn gallu dy helpu i ddeall sut rwyt ti’n teimlo. Siarada â dy feddyg/nyrs ysgol am gynllun Llyfrau Llesol (Cymru). I weld rhestr o lyfrau am lesiant ac iechyd meddwl, cer i www.llyw.cymru
 Llyfrau Llesol (Cymru)

 

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button