Polisi Chwarae

Ar lefel genedlaethol, cynhyrchodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Bolisi Chwarae yn 2002 ac o ganlyniad sefydlwyd Grwp Gweithredu Chwarae i ddatblygu argymhellion pellach ar gyfeiriad chwarae. Lansiwyd ‘Chwarae yng Nghymru’ – Cynllun Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Chwefror 2006.

Dymuniad Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd creu amgylchedd yng Nghymru lle y caiff plant gyfleoedd ardderchog i chwarae a lle y gallant fwynhau eu hamser hamdden. Nodir yn y Polisi Chwarae:

‘bod chwarae mor hanfodol bwysig i bob plentyn wrth iddo ddatblygu ei sgiliau corfforol, cymdeithasol, meddyliol, emosiynol a chreadigol fel y dylai cymdeithas achub ar bob cyfle i’w gefnogi a chreu amgylchedd sy’n ei feithrin. Dylai’r broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth ystyried effaith y penderfyniadau hynny ar y cyfleoedd a gaiff plant i chwarae’.

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button