prev
next
play
pause

Tîm o Amgylch y Teulu: Rhieni a Gofalwyr

Rhieni a Gofalwyr

Rhieni a Gofalwyr
Sut mae TAF yn gweithio

Os ydych yn poeni am eich plentyn, yn profi straen ynghylch rhianta neu’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin, gall dull TAF ddod â’r bobl iawn ynghyd i’ch helpu chi. GYDA’N GILYDD byddwn yn edrych ar ffyrdd o’ch helpu fel teulu i ddatblygu eich cryfderau a goresgyn anawsterau mewn meysydd eraill lle gallech elwa o gymorth ychwanegol.

Bydd un person, Gweithiwr Allweddol TAF, yn siarad gyda chi ac yn cwblhau asesiad Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio’r cymorth gorau ichi.

Mae gweithiwr allweddol yn berson rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gweithio gydag ef/hi. Bydd ef/hi yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddilyn a’i fod yn gweithio.

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallai TAF eich helpu chi, gallwch lawrlwytho’r daflen Gwybodaeth i Deuluoedd yma. Cliciwch yma i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan TAF.

Cofiwch…
Mae TAF yn broses WIRFODDOL a gallwch ddweud ‘Na’ AR UNRHYW ADEG os byddwch yn newid eich meddwl.

Sut ydw i’n cael mynediad i Gymorth TAF?
Mae cael mynediad i gymorth yn syml. Gallwch gysylltu ag ysgol neu Ymwelydd Iechyd eich plentyn, neu gallwch lenwi’r ffurflen Mynediad i Gymorth TAF a’i hanfon drwy e-bost i TAF@sirgar.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Cam 1 – Cais am wasanaeth

Gall cais am gymorth TAF gael ei wneud gan weithiwr proffesiynol sy’n eich adnabod chi ac efallai eich teulu, fel athro, meddyg teulu, gweithiwr ieuenctid, neu gallwch wneud cais am gymorth eich hunan.

Mae’n rhaid ichi roi eich caniatâd ar gyfer yr holl geisiadau am Fynediad i Gymorth, felly chi sy’n penderfynu a ydych yn derbyn cymorth TAF a gallwch roi’r gorau iddo ar unrhyw adeg.

Bydd cydgysylltwyr TAF yn penderfynu a oes angen ymateb TAF ar gyfer eich atgyfeiriad – os na, cewch eich cyfeirio at un asiantaeth ar gyfer cymorth.

Team Around the Family, smiling children

Cam 2 – Ymweliad cartref a chynllun cymorth

Bydd cydgysylltwyr TAF yn trefnu bod rhywun yn ymweld â chi yn eich cartref neu yn rhywle sy’n gyfleus i chi, er mwyn siarad gyda chi am yr hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn y gall fod arnoch angen cymorth ag ef.

Bydd yr ymweliad hwn yn eich helpu i nodi eich cryfderau a’ch anghenion ac yn eich cynorthwyo wrth lunio cynllun cymorth.

Y nod yw cynnal eich ymweliad cyn pen 3 wythnos ar ôl derbyn eich cais am Fynediad i Gymorth.

Cam 3 – Cynllun Cymorth

Mae eich Cynllun Cymorth yn eiddo i CHI, felly bydd yr holl gamau gweithredu yn cael eu cytuno gyda chi a, lle bo’n briodol, eich teulu.

Bydd eich Cynllun Cymorth yn cynnwys camau gweithredu i chi, i’ch teulu os yw’n briodol, ac i asiantaethau eraill.

Os ydych yn cytuno â hynny, y person sy’n ymweld â chi fydd eich Gweithiwr Allweddol. Y person hwn fydd eich prif gyswllt wrth ichi weithio drwy eich cynllun.

Cam 4 – Adolygu

Bob 3 mis, neu’n amlach os oes angen, byddwch yn adolygu eich Cynllun Cymorth gyda’ch Gweithiwr Allweddol i weld sut mae pethau’n mynd ac i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn a’ch bod yn derbyn y cymorth iawn.

Bydd eich Cynllun Cymorth yn cael ei adolygu a’i newid yn ôl yr angen i ymateb i’ch anghenion sy’n newid.

Bydd y Cynllun a’r Cymorth yn parhau ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd hyd nes y bydd yr holl ganlyniadau wedi’u cyflawni neu na fydd angen neu eisiau’r cymorth arnoch mwyach. Bryd hynny, bydd eich achos yn cael ei gau.

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button