Gwybodaeth Ddefnyddiol

Coronafeirws (COVID-19)

Rydym yn gobeithio bod pob un o’n teuluoedd Dechrau’n Deg yn cadw’n dda ac yn ddiogel gartref. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym wedi paratoi rhestr o ddolenni defnyddiol i’ch helpu chi i ddod o hyd i ffyrdd fforddiadwy a hawdd o gael hwyl gartref. Byddwn hefyd yn parhau i rannu’r wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf, gan roi cymorth a chefnogaeth i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym yn deall bod y cyfnod hwn yn gythryblus ac yn heriol i deuluoedd – yn enwedig wrth geisio gofalu am eich plant ifanc.

Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd oherwydd y coronafeirws, mae ein prif linell ffôn yn Swyddfa Dechrau’n Deg – 01554 742447 ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm fel arfer ar gyfer unrhyw ymholiadau, gan gynnwys y rheiny sydd wedi codi o ganlyniad i’r coronafeirws. Os oes angen unrhyw gymorth, cyngor neu glust i wrando i leihau pryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button