➭ Cwestiynau cyffredin i rieni
Beth sy’n digwydd os ydw i neu fy mhartner yn colli ein swydd?
Os bydd sefyllfa rhiant yn newid a’i fod felly yn anghymwys:
Caniateir cyfnod eithriedig dros dro o 8 wythnos o’r dydd ei fod yn anghymwys
Bydd y cynnig yn aros i’w fanteisio arno am yr hyd
Gallech ailsefydlu eich bod yn gymwys pryd bynnag y mae’n berthnasol yn y cyfnod hwn.
Eithriadau i fod yn gymwys
Bydd teuluoedd yn y sefyllfaoedd canlynol yn parhau bod yn gymwys manteisio’r cynnig:
Rhieni sydd i ffwrdd o’r gweithle neu wedi atal eu hastudiaethau dros dro ar absenoldeb salwch neu oherwydd absenoldeb rhiant. Gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir statudol a thâl, ac absenoldeb mabwysiadu yn dal i fod yn gymwys i gael Y Cynnig gan eu bod yn cael eu hystyried yn gyflogedig.
Pan fydd un rhiant yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r llall yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn hwnnw’n dal i allu cael Y Cynnig:
• Budd-dal analluogrwydd
• Lwfans gofalwr
• Lwfans anabledd difrifol
• Budd-dal analluogrwydd hirdymor
• Lwfans cyflogaeth a chymorth
• Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd i weithio neu allu cyfyngedig i weithio
Ni fydd teuluoedd lle mae’r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod yn gallu derbyn y Y Cynnig gofal plant.
Pwy sy’n cael ei gyfrif o dan deulu a ffrindiau sy’n ofalwyr/ofalwyr sy’n berthnasau?
Gofalwyr teulu a ffrindiau (a elwir hefyd yn ofalwyr sy’n berthnasau) yw’r rheiny sydd wedi dwyn cyfrifoldeb am blentyn neu lys-blentyn nad yw’n blentyn neu’n lys-blentyn iddyn nhw oherwydd:
• Nid oes gan y plentyn unrhyw rieni neu mae ganddo rieni sy’n methu â gofalu am y plentyn;
• Mae’n debygol y byddai’r plentyn fel arall yn derbyn gofal gan awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn
Gall gofalwyr sy’n berthnasau gael y Y Cynnig cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf enillion ac yn cael eu hystyried fel rhai sy’n ‘gweithio’, yn byw yng Gymru ac yn gofalu am blentyn sydd o fewn yr oedran cywir i gael y Y Cynnig.
Sut fyddech chi’n diffinio rhiant mewn addysg neu hyfforddiant?
I fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig, rhaid i rieni mewn addysg neu hyfforddiant fod wedi cofrestru ar gwrs Addysg Uwch (AU) neu gwrs Addysg Bellach (AB) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell. I ddangos tystiolaeth o hyn, bydd angen i chi naill ai ddarparu copi o gynnig ffurfiol o le cwrs neu lythyr cofrestru ffurfiol.