Cefnogaeth Teuluoedd
Ar ba bynnag ffurf y maent, teuluoedd yw ased mwyaf gwerthfawr Sir Gaerfyrddin a nhw yw’r ffactor pwysicaf wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn hapus, yn iach, yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth i gyflawni eu potensial llawn.
Mae Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn nodi sut y byddwn yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar i gefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin ar unrhyw adeg ym mywyd plentyn, o’r blynyddoedd cynnar hyd at yr arddegau.
Mae’n amlinellu ein nodau, ein hegwyddorion a’r polisïau sy’n cyfeirio ein gwaith, yn ogystal â phrif raglenni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi teuluoedd ar draws ystod o anghenion.