Hyfforddiant cysylltiedig â chwarae
Beth yw Gwaith Chwarae?
Mae gwaith chwarae yn broffesiwn cydnabyddedig. Mae gwaith chwarae yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau mai chwarae yw’r prif ffocws. Mae rôl y gweithiwr chwarae yn amrywiol ac yn ymwneud â llawer mwy na diddanu plant. Mae gweithwyr chwarae yn cefnogi ac yn hwyluso chwarae plant ac mae hyn yn gofyn am ystod o sgiliau. Mae gofyn i weithwyr chwarae gadw at yr Egwyddorion Chwarae. Mae’r rhain yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac felly rhaid eu hystyried yn eu cyfanrwydd.
Yr-Egwyddorion-Gwaith-Chwarae-2023.pdf
Mae’r sector gwaith chwarae yn cwmpasu llawer o wahanol broffesiynau, a gallai llawer ohonynt elwa o gymwysterau neu hyfforddiant gwaith chwarae. Mae ychydig o opsiynau gwahanol ar gael os oes angen cymhwyster gwaith chwarae arnoch fel rhan o’ch gwaith. Ewch i’r ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am y cymwysterau gofynnol:
Cymwysterau a hyfforddiant – Play Wales CYM (chwarae.cymru)
Mae tîm chwarae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig hyfforddiant chwarae am ddim heb ei achredu, i Ysgolion, lleoliadau gofal plant a darparwyr chwarae. Rydym yn cynnig rhaglen bwrpasol a gallwn deilwra’r hyfforddiant i’ch anghenion unigol.
Cysylltwch: gwybplant@sirgar.gov.uk am fwy o wybodaeth neu i archebu sesiwn hyfforddi.
Adborth Cyfranogwr:
‘Roedd yr hwyluswyr yn ymgysylltu ac yn caniatau cyfleoedd i drafod. Wedi mwynhau’r cwrs yn fawr.’
‘Roeddwn i’n meddwl bod y cwrs wedi’i gyflwyno’n dda, yn ddifyr ac yn procio’r meddwl’
Ar gyfer cwrs achrededig (efallai y bydd angen ffi ar rai) ewch i’r dolenni canlynol:
Childcare Apprenticeships in Wales | CCPLD and Playwork Levels 2, 3 & 5 | TSW Apprenticeships