Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin

Flying Start Carmarthenshire, Carmarthenshire County Council, NHS, Welsh Government

Pa wasanaethau allwn ni eu cynnig i chi?

Mae Dechrau’n Deg yn gweithredu ar sail ddaearyddol gan ddefnyddio codau post. Defnyddiwch y gwiriwr côd post i weld a yw eich côd post yn gymwys ar gyfer ein gwasanaethau.

Gwiriwr Côd Post

A ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg?

Ynghylch Dechrau’n Deg

Rhaglen a ariannir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg ar gyfer plant rhwng 0 a 3 blwydd ac 11 mis. Mae’n cefnogi teuluoedd sy’n byw mewn adaloedd penodol yn Sir Gaerfyrddin, a ddiffinnir gan gôd post.

Cydnabyddir bod blynyddoedd cynnar plant yn gyfnod pwysig a bod profiadau’r adeg hon yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad plant yn y dyfodol felly mae’n bwysig iawn gwneud pethau’n iawn!

Bwrdd Hysbysiadau Dechrau’n Deg

Childcare session in Flying Start session

Gwasanaeth Gofal Plant

Os oes gennych blentyn rhwng 2 a 3 oed ac yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae gan y plentyn fynediad at ofal plant o ansawdd wedi’i ariannu. Mae’r gofal plant hwn ar gael am 2 awr a hanner y dydd am hyd at 39 wythnos. Mae’n dechrau’r tymor ar ôl ail ben-blwydd y plentyn hyd at y tymor mae’n troi’n dair.

Darganfod Mwy..

Gwasanaeth Rhianta

Bod yn rhiant fydd un o’r rolau fydd yn rhoi’r boddhad mwyaf I chi, ac weithiau, un o’r rolau mwyaf heriol hefyd! Am y rheswm hwnnw, mae gyda ni amrywiaeth o grwpiau i gefnogi mamau, tadau a gofalwyr. Fel arfer, cynhelir ein gweithdai mewn canolfannau plant neu ganolfannau teulu lleol ac maen nhw’n hwyliog ac anffurfiol, ac yn bwysicach na hynny, am ddim!

Daragnfod mwy..

Demonstrating breastfeeding with mum

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Nyrsys Iechyd y Cyhoedd yw Ymwelwyr Iechyd. Os yw’n gymwys, bydd Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaeth gwell i’r teulu o’r cyfnod cyn-geni tan 5 oed. *

*Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Darganfod mwy..

Gwasaneth Bydwreigiaeth

Mae ein Gwasaneth Bydwreigiaeth Dechrau’n Deg yn cynnig y canlynol i rieni yn ardal Dechrau’n Deg:

Paratoi ar gyfer esgor a gofalu am y babi, gyda chymorth un-i-un yn y cartref ac mewn grŵp.

Canolbwyntio ar iechyd emosiynol, lleihau straen a hyrwyddo ymlyniad/bondio cynnar.

Mynychu grwpiau lle gallant gwrdd a gwneud ffrindiau â mamau eraill.

Ein nod yw cynyddu’r nifer sy’n bwydo ar y fron yn yr ardal Dechrau’n Deg a thrafod y manteision drwy Hybu Iechyd.

Rydyn ni’n darparu arweiniad, mentora a chymorth drwy gydol y beichiogrwydd gan hybu hunan-barch a chynyddu hyder.

Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth emosiynol yn y cyfnod ar ôl geni – cyfnod lle mae’r rhan fwyaf o famau’n teimlo bod cael babi newydd yn gallu bod yn heriol.

*Gwasanaeth cyfeirio yn unig yw hwn. I gael mynediad ato bydd angen atgyfeiriad arnon ni gan eich bydwraig neu ymwelydd iechyd.

Darganfod Mwy..

Baby playing at baby babble

Gwasanaeth Iaith Gynnar

Mae dysgu siarad yn rhan hanfodol o ddatblygiad a thwf cynnar babanod a phlant. Bydd siarad  â’ch babi o’r enedigaeth a chynnig ystod eang o weithgareddau ysgogol iddo/iddi yn datblygu ei sgiliau siarad. Mae’n ei helpu i ddysgu, i lwyddo ac i fod yn barod ar gyfer yr ysgol.

Darganfod Mwy..

Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol

Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Prosiect Cam-drin Domestig a Swyddogion Cymorth. Maen nhw’n darparu pecynnau cymorth i deuluoedd mewn rhai ardaloedd Dechrau’n Deg.

*Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a ydych chi’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Darganfod mwy..

Support Officer Home Visit

Cyfeiriad

Dechrau’n Deg
Cyn Ysgol Babanod y Morfa
Heol Newydd
Morfa
Llanelli
SA15 2DQ

Ffôn

01554 742447

E-bost

Dechraundeg@sirgar.gov.uk

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button