Anghenion Dysgu Ychwanegol

Y Tîm Cymorth yn eich Ysgol Leol

Mae tîm o weithwyr proffesiynol yn cefnogi ysgolion a theuluoedd plant ag ADY. Maent yn cynnwys timau o athrawon ymgynghorol, seicolegwyr addysg a phlant, y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd, y Tîm Cymunedol Cymorth Ymddygiad, Addysg Mewn Rhywle Arall Heblaw’r Ysgol, Addysg Ddewisol yn y Cartref, y Gwasanaeth Cyflawniad Grwpiau Lleiafrifol ac Ethnig a’r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ar ADY yn Sir Gaerfyrddin

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Rydym yn mabwysiadu dull partneriaeth o weithio gyda theuluoedd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rydym yn darparu cymorth a chyngor i deuluoedd y mae gan eu plant anghenion dysgu ychwanegol, drwy Swyddogion Cyswllt Teulu.

Gall teuluoedd gymryd rhan yn y bartneriaeth hon drwy cysylltu â Swyddog Cyswllt Teulu ADY. Gallant ddarparu cyngor penodol o’r Blynyddoedd Cynnar hyd at addysg ôl-16. Maent yn gweithio’n agos gyda Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar, Swyddog Arweiniol Ôl-16, athrawon ymgynghorol eraill, a swyddogion cynhwysiant.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth a Rhieni yn Sir Gar.

Mae’r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm

Ffôn: 01267 246465

ALNQueries@sirgar.gov.uk

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button