Ymddiheuriadau, mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yng nghylchlythyr HWB yn gamarweiniol. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer rhieni plant 3 a 4 oed sydd yn gweithio.
Gofal plant wedi’i ariannu yw’r 30 awr, nid gofal plant am ddim. Caiff y Grant Cymorth Ychwanegol y Cynnig Gofal Plant ei dalu’n uniongyrchol i’r darparwr gofal plant os yw’r plentyn yn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant 30 awr.












