How can we help?

Os ydych yn ceisio beichiogi neu eisoes yn feichiog, mae cyfoeth o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i chi. Yn ystod eich beichiogrwydd ac am gyfnod byr ar ôl yr enedigaeth byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â'ch bydwraig. Efallai mai dyma’r amser hefyd i ddechrau ystyried eich opsiynau gofal plant os ydych yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith

Yn fuan ar ôl genedigaeth eich babi byddwch yn cael eich trosglwyddo o ofal eich Bydwraig i'r Ymwelydd Iechyd. Byddwch mewn cysylltiad â'ch Ymwelydd Iechyd hyd nes y bydd eich plentyn yn cyrraedd oedran ysgol.

Pan fydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol bydd wedyn yn cael mynediad at y gwasanaeth Nyrsio Ysgol drwy gydol ei daith drwy addysg

Unwaith y bydd eich plentyn yn yr ysgol mae gwasanaethau ar gael a allai fod o gymorth i chi

Mae dod yn rhiant a chamu mewn i rhianta yn amser all for yn heriol, er hyn mae yna amryw o wasanaethau ar gael bydd o gymorth i chi a fydd yn tywys chi trwy rhai o'r heriau.

O'r cenhedlu trwy flynyddoedd cynnar bywyd eich plentyn a thu hwnt bydd gennych fynediad parhaus i ofal iechyd ar gyfer eich anghenion chi ac anghenion eich plentyn