Digonolrwydd Gofal Plant
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Bob pum mlynedd cynhelir Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn gan yr Awdurdod Lleol i nodi bylchau mewn gofal plant yn Sir Gaerfyrddin. Gallwch ymchwilio i’r ADGP i weld a yw’r maes yr ydych yn dymuno sefydlu fel darparwr gofal plant ynddi wedi’i amlygu fel bwlch mewn gofal plant.
Ymgynghori Nawr!
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ein pumed Asesiad Statudol o Ddigonolrwydd Gofal Plant DRAFFT (2022-27) ac mae Llywodraeth Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i ni ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod ar Adroddiad Cryno Gweithredol DRAFFT.
Sut i gymryd rhan
Darllenwch yr Adroddiad Cryno Gweithredol DRAFFT a chymerwch ran yn arolwg Sir Gaerfyrddin ar-lein.
Crynodeb Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Sir Gaerfyrddin (2022 – 27) Drafft