Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen addysg mewn ysgolion sy’n cael ei hariannu gan CLlLC ac sy’n cael ei gyflwyno gan staff ysgolion a phartneriaid dros 12 diwrnod yn ystod gwyliau yr haf.

Mae’n darparu addysg bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant mewn ardaloedd amddifadedd cymdeithasol. Rhaid i ysgolion fod a 16% neu fwy o gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim er mwyn cymryd rhan. Dim ond y plant sydd yn mynychu’r ysgolion gall cymryd rhan trwy wahoddiad yn unig gan staff yr ysgol.

I wylio ffilm fer sy’n esbonio mwy am Bwyd a Hwyl cliciwch ar y logo Bwyd a Hwyl Uchod.

Yn ystod 2023 bydd yr ysgolion canlynol yn cymryd rhan yn Bwyd a Hwyl:

Ysgol Gynradd Pontyberem, Ysgol Gynradd Penrhos, Ysgol Gynradd Y Bedol, Ysgol Gynradd Bro Banw, Ysgol Gynradd Betws ac Ysgol Gynradd Llandeilo

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r ysgolion yn uniongyrchol os gwelwch yn dda.

Siaradais â menyw gyfeillgar a chymwynasgar iawn pan ffoniais.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button