prev
next
play
pause

Canolfanau Plant a Theulu Integredig

Mae Canolfannau Plant yn gweithredu fel rhwydwaith o wasanaethau sy’n rhoi cymorth i blant hyd at 12 oed a’u teuluoedd, gan ddarparu gwasanaethau integredig o ran addysg, gofal plant, cynnal teuluoedd, chwarae ac iechyd er mwyn gwella dyfodol plant a’u teuluoedd. Mae gan Sir Gaerfyrddin dair canolfan: Y Morfa, Felin-foel a Llwynhendy.

Er mai’r Gwasanaethau Plant sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y tair canolfan, maent yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, Gwasanaethau Iechyd, Dechrau’n Deg, Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, Cylch Meithrin Felin-foel a Phlant Dewi, sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol yn y Morfa ac yn Felin-foel. Bydd pob Canolfan yn ymateb i angen y gymuned ac felly, mae’n bosibl y byddant yn cynnig darpariaeth wahanol ond, yn gyffredinol mae’r gweithgareddau canlynol ar gael:

  • Addysg Feithrin Blynyddoedd Cynnar i blant rhwng 2 a 3 oed o dan y Rhaglen Dechrau’n Deg
  • Chwarae Mynediad Agored i blant rhwng 7 ac 11 oed
  • Clwb Chwarae i blant rhwng 4 a 6 oed
  • Chwarae i Fabanod rhwng 0 ac 1 oed gan gynnwys Cymorth Bwydo ar y Fron
  • Gweithgareddau Gwyliau Ysgol gan gynnwys Diwrnodau Hwyl i’r Teulu a Thripiau/Diwrnodau Allan
  • Clinigau Amenedigol a Chlinigau Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg
  • Grwpiau Cyn-geni
  • Rhaglenni Rhianta gan gynnwys Tylino i Fabanod
  • Sesiynau Rhieni a Phlant Bach: Iaith a Chwarae, Ti a Fi ac Amser Stori
  • Cymorthfeydd Galw Heibio mewn perthynas â Chyflogaeth a Hyfforddiant yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Cyrsiau Cyflogaeth.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn darparu cymorth mewn lleoliadau sydd wedi’u targedu ledled y Sir ar ffurf Canolfannau Teulu, Grwpiau Teulu a Chanolfannau Integredig i Blant. Maent yn cynnig cymorth a chefnogaeth i famau, tadau a gofalwyr roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Darparu amrywiaeth o gyfleoedd megis gweithgareddau blynyddoedd cynnar, cymorth i rieni, gwella sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd chwarae.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pob canolfan, galwch heibio neu ffoniwch  Estelle Etheridge, Rheolwr y Ganolfan Integredig i Blant: 01554 742203

Gallwch hefyd edrych ar ein tudalennau Facebook am y newyddion diweddaraf a gwybodaeth bellach ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud.

 Canolfannau Integredig i Blant Llwynhendy Facebook

 Canolfannau Integredig i Blant Morfa Facebook

Canolfannau Integredig i Blant  Felinfoel Facebook

Llwynhendy Integrated Children's Centre

Off Llwynhendy Road,
Llwynhendy,
Llanelli
SA14 9DP

Tel: 01554 742203

Morfa Integrated Children's Centre

School Road,
Morfa,
Llanelli
SA15 2AU

Tel: 01554 742402

Felinfoel Integrated Children's Centre

Ynyswen,
Felin-foel,
Llanelli
SA14 8BE

Tel: 01554 742498

If you would like to contact us please complete the form below

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button