Chwarae

Chwarae

Beth yw Chwarae?

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio chwarae fel ymddygiad sydd: wedi’i ddewis yn rhydd, wedi’i gyfarwyddo’n bersonol ac wedi’i ysgogi’n gynhenid a’i pherfformio he

b unrhyw nod na gwobr allanol. Hynny yw, plant a phobl ifanc sy’n penderfynu a rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae, drwy ddilyn eu greddfau, eu syniadau a’u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain am eu rhesymau eu hunain.

 

Sut mae chwarae yn helpu’ch plentyn i ddatblygu

Mae chwarae’n gwneud cyfraniad hanfodol i ddatblygiad eich plentyn – corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol.

Chwarae a gweithgarwch corfforol
Pan fyddan nhw’n chwarae, mae plant yn debygol o fod yn egnïol yn gorfforol – yn rhedeg, neidio, dawnsio, dringo, palu, codi, gwthio a thynnu.

Chwarae a dysgu
Pan fyddant yn chwarae, mae plant yn datrys problemau, dysgu geiriau newydd ac archwilio sut mae pethau’n gweithio.

Chwarae a chymdeithasu
Pan fyddan nhw’n chwarae, mae plant yn gwneud ffrindiau, yn dadlau ac yn gwneud ffrindiau eto, ac yn dysgu rhannu.

Chwarae a chreadigrwydd
Pan maen nhw’n chwarae, mae plant yn profi pethau, yn gwneud pethau, yn defnyddio eu dychymyg, ac yn mynegi eu hunain.

Chwarae a theimladau
Pan maen nhw’n chwarae, mae plant yn mynegi eu hunain. Maen nhw’n aml yn teimlo’n hapus, ac maen nhw’n dod i delerau gyda phrofiadau gwahanol. Mae hyn yn helpu plant i deimlo llai o straen.

Chwarae Sir Gâr

Gall Tîm Chwarae Sir Gâr eich cefnogi mewn amryw o ffyrdd.

Rydym yn cynnig:

  • Hyfforddiant Chwarae bob tymor i bob lleoliad cofrestredig a heb ei gofrestru; staff yr ysgol; rhieni a grwpiau cymunedol.
  • Syniadau chwareus a chyfeirio at weithgareddau a digwyddiadau chwareus.
  • Cyngor ar sut i greu amgylchedd chwarae cyfoethog i bob oedran, boed gartref neu yn yr ysgol.
  • Gwybodaeth am Bolisi Chwarae ac Asesiad Digonolrwydd Chwarae.
  • Cyngor ac arweiniad a llythyrau o gymorth ar gyfer ceisiadau am gyllid.

Dod o hyd i gymorth, gwasanaethau a gwybodaeth o fewn Sir Gaerfyrddin:

 

Neu cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar:

E-bost: gwybplant@sirgar.gov.uk

Ffoniwch 01267 246555 Llun-Gwener 9yb-5yp

Neges destun GGD: Dechreuwch eich neges gyda ‘Plant’ os gwelwch yn dda a’i ddanfon at 07786 202747

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button