Y Gwasanaeth Gadael Gofal
Y Cam Nesaf – Y Gwasanaeth Gadael Gofal
Gwasanaeth statudol yw’r Cam Nesaf, ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy’n gadael gofal. Mae’r tîm yn hyrwyddo llesiant pobl sy’n gadael gofal drwy ddarparu cyngor ymarferol, cymorth ac arweiniad. Mae gan y tîm rôl rhianta corfforaethol wrth sicrhau bod pob person sy’n gadael gofal yn meddu ar y sgiliau i fyw’n annibynnol a bod yn ddinesydd gweithredol.
Rhif ffôn cyswllt: 01267 246795