Awtistiaeth Cymru
Nod yr adnoddau yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth am awtistiaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Hyfforddiant Iaith a Lleferydd
Mae’r adnoddau wedi’u hanelu at gynyddu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth o arferion lleferydd ac iaith rhagorol ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Siarad gyda fi: adnodd llwybr hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cymru Gyfan | LLYW.CYMRU
Gwarchodwyr plant –
yn gofalu am hyd at 10 o blant rhwng 0 a 12 oed yn eu cartrefi eu hunain. Rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu harchwilio a’u rheoleiddio gan AGC (dolen i AGC). Maent yn gweithio yn y gymuned, felly gall plant fynd i gylchoedd chwarae/meithrin a grwpiau rhieni a phlant bach. Rydym yn darparu hyfforddiant a chymorth i chi yn ystod y broses gofrestru a thrwy gydol eich gyrfa gwarchod plant. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Avril Rees, Swyddog Datblygu a Hyfforddi Gwarchodwyr Plant drwy ffonio 01267 246554.
Meithrinfeydd dydd –
yn darparu addysg gynnar gofrestredig a gofal plant ar gyfer plant rhwng 0 a 12 oed. Fel arfer maent ar agor o’r bore cynnar tan ddechrau’r nos. Maent yn darparu amgylchedd gofalgar, diogel ac ysgogol, naill ai wrth roi gofal llawn amser neu ran-amser, a bydd rhai yn cynnig gofal cyn ac ar ôl ysgol yn ogystal ag yn ystod y gwyliau ar gyfer plant hŷn.
Meddwl am sefydlu meithrinfa? Gallwn eich cynorthwyo gan roi gwybodaeth ac arweiniad yn ystod y broses gofrestru a chymorth parhaus ar ôl hynny. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Susan James, Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, drwy ffonio 01267 246552.
Clybiau ar ôl ysgol/Clybiau gwyliau –
yn darparu gwasanaeth gofal ar gyfer plant ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae clybiau ar ôl ysgol yn gallu bod yn gofrestredig neu’n anghofrestredig, gan ddibynnu ar oriau’r gwasanaeth a gynigir. Mae clybiau gwyliau sy’n gofrestredig ag AGC hefyd yn wasanaeth gwerthfawr ar gyfer plant yn ystod gwyliau ysgol.
Meddwl am sefydlu clwb? Gallwn eich cynorthwyo gan roi gwybodaeth ac arweiniad yn ystod y broses gofrestru a chymorth parhaus ar ôl hynny. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Terena Davies-Tommason, Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, drwy ffonio 01267 246785.
Mae clybiau brecwast am ddim yn cael eu rhedeg gan yr Awdurdod Lleol mewn rhai ysgolion yn y Sir. Ceir rhai clybiau brecwast sy’n codi tâl hefyd. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael rhagor o wybodaeth.
Cylchoedd Meithrin/Grwpiau Chwarae –
gall plant rhwng 2 a 4 oed eu mynychu ar gyfer sesiwn y bore neu sesiwn y prynhawn, yn ystod y tymor ysgol yn bennaf. Maent yn darparu amgylchedd diogel ac ysgogol lle y gall plant chwarae, dysgu a chymdeithasu. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mudiad Meithrin (dolen) neu Gymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (dolen).