Cefnogaeth Teuluoedd Integredig
Mae’r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd wedi’i ddatblygu i helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn ddiogel yn ystod adegau anodd yn eu bywydau. Mae’r tîm yn gweithio’n ddwys gydag aelodau o’r teulu i’w galluogi i wneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw ac i amgylchedd eu cartref, fel bod teuluoedd yn gallu aros gyda’i gilydd. Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant a theuluoedd y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio oherwydd bod rhiant yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod cam-drin domestig, rhiant â salwch, neu anabledd dysgu yn gallu effeithio ar deuluoedd hefyd.
01554 742450
Hen Ysgol Plant Bach y Morfa
Stryd Newydd
Llanelli
SA15 2DQ