Gwasanaethau Anableddau Statudol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin cysylltwch â 01554 742322

Darpariaeth Gwyliau’r Haf i Blant Anabl 2024

Ein nod yw darparu’r ystod fwyaf o opsiynau i blant a theuluoedd ledled y sir.

Mae Darpariaeth Gwyliau i Blant Anabl yn ystod Gwyliau 2024 yn rhoi rhai manylion am yr opsiynau i ddewis ohonynt ac mae’n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer archebu ac ymholiadau am y gwasanaeth unigol.

Mae 3 adran yn y canllaw hwn:

  • Clybiau a Gweithgareddau Gwyliau Arbenigol ar gyfer Plant Anabl
  • Clybiau Gwyliau Anarbenigol a allai ddarparu cefnogaeth i Blant Anabl
  • Cymorth ychwanegol i Blant a Theuluoedd sy’n agored i’n Tîm Anabledd.
tim-camau-bach-120

Mae Tim Camau Bach yn Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar a gomisiynwyd gan Teuluoedd yn Gyntaf. Rydym yn cynnig cymorth tymor byr i rieni sydd â phlentyn anabl 0-16 oed ynghylch materion fel cyfathrebu, cwsg, ymataliaeth, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd. Cliciwchttps://fis.carmarthenshire.gov.wales/tim-camau-bach/?lang=cyh yma am fwy

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Clybiau Plant a Phobl Ifanc

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Silverthorne: joanne@carmarthenshirecarers.org.uk neu ffoniwch 01554 754957.

Prosiect Cwmpawd Mencap Cymru

Mae Cwmpawd Mencap Cymru yn rhan o Cysylltu Sir Gâr. Gall ein tîm o arbenigwyr roi’r wybodaeth gywir i bobl ag anableddau dysgu 18+ oed a’ch helpu i lywio a chysylltu â’r gwasanaeth lleol cywir i’ch cefnogi.

https://wales.mencap.org.uk/cy/prosiect-cwmpawd-mencap-cymru

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button