Cymorth i ddod o hyd i swydd

Ydych chi’n ddi-waith? Os ydych chi’n edrych i gael gwaith, gallwn ni helpu. Gall ein tîm cymorth cyflogaeth eich helpu i oresgyn rhwystrau i fynd yn ôl i’r gwaith, gan sicrhau bod gennych chi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch ar hyd y ffordd. Fel rhan o’ch cais, byddwn ni’n helpu i nodi’r rhaglen sgiliau gywir i chi. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Nodi cyfleoedd hyfforddi
  • Darparu mentor personol i chi a fydd yn eich helpu i nodi eich sgiliau, a gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu swydd
  • Helpu i feithrin eich hyder
  • Helpu gydag ysgrifennu CV a chwblhau ceisiadau am swyddi

c4wplus@carmarthenshire.gov.uk
01554 744303

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button