➭ Hawl ‘wythnosau gwyliau’ y Y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau’r ysgol
Bydd y Y Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir bob wythnos i rieni plant 3 a 4 oed, sy’n gweithio, a hynny hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae 39 wythnos yn y tymor, ac mae’r 9 wythnos sy’n weddill o’r Y Cynnig yn cael ei drin fel amser nad yw yn y tymor neu ‘ddarpariaeth wyliau’. Yn ystod y ddarpariaeth wyliau 9 wythnos hon, bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant bob wythnos yn unig.Ni fydd Llywodraeth Cymru yn nodi pa rai o’r 13 wythnos o’r cyfnod di-dymor sydd wedi’u dynodi’n 9 wythnos o ddarpariaeth wyliau er mwyn caniatáu hyblygrwydd i rieni sydd mewn gwahanol swyddi, fel y rhai sy’n gorfod gweithio dros yr haf neu yn ystod gwyliau’r Nadolig.
Fodd bynnag, ni fydd rhieni’n gallu ‘ymestyn’ eu hawliau dros wythnosau na throsglwyddo oriau nas defnyddiwyd ar draws wythnosau.
Bydd darpariaeth wyliau yn cael ei dyrannu ar ddechrau pob tymor y mae’r plentyn yn gymwys i gael y Y Cynnig. Dyrennir 3 wythnos o ddarpariaeth wyliau i blant bob tymor. Gellir trosglwyddo unrhyw ddyraniad nas defnyddiwyd a’i ddefnyddio yn y tymor nesaf, ar yr amod eu bod yn dal yn gymwys i dderbyn y Y Cynnig. Bydd plant sy’n gymwys i gael y Y Cynnig am un neu ddau dymor yn unig yn derbyn darpariaeth wyliau 3 wythnos ar ddechrau pob tymor, yn yr un modd ag y byddai unrhyw blentyn arall.
Gweler y 9 wythnos ganlynol o hawl statudol i wyliau pro-rata:
• Bydd gan blentyn sy’n gymwys i gael y Y Cynnig am dri thymor hawl i gael 9 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.
• Bydd gan blentyn sy’n gymwys i gael y Y Cynnig am ddau dymor hawl i gael 6 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.
• Bydd gan blentyn sy’n gymwys i gael y Y Cynnig am un tymor hawl i gael 3 wythnos o ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.
Bydd angen gwneud ceisiadau am yr hawl statudol i wyliau o leiaf 4 wythnos cyn y dyddiad y mae angen yr hawl statudol i wyliau arnoch. Bydd y rhain yn cael eu gwirio
gan yr Uned Gofal Plant o fewn y mis cyn y gwyliau. Os bydd eich cais yn llwyddiannus fe’ch hysbysir trwy e-bost.
Pan fydd plentyn yn cael Y Cynnig lle mewn addysg amser llawn cyn mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed (e.e. tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed neu’r tymor y mae’n troi’n bedair oed), mae’r plentyn hwnnw’n dal yn gymwys i gael 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth wyliau hyd at y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed.
Mae’n bosibl y bydd plant a anwyd yn nhymor yr Hydref neu’r Gwanwyn yn gymwys i gael y Y Cynnig am fwy na blwyddyn. Mewn achosion o’r fath, ar ddechrau’r ail flwyddyn, rhoddir dyraniad newydd o ddarpariaeth wyliau am weddill yr amser y maent yn gymwys i dderbyn y Y Cynnig.
Noder, pan fydd plentyn yn gymwys i gael addysg amser llawn, nid oes ganddo hawl bellach i gael y Y Cynnig gofal plant yn ystod y tymor.