➭ Meini Prawf Cymhwysedd
I gael yr elfen gofal plant o’r Y Cynnig, mae’n rhaid i rieni a gwarcheidwaid:
• Fod â phlentyn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin Cyfnod Sylfaen yn rhan-amser
• Byw yng Nghymru.
• Bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn byw yng Nghymru’n barhaol. Mae’n rhaid i’r ddau riant/parau sy’n cyd-fyw fod yn gweithio mewn teulu â dau riant, neu’r unig riant mewn teulu ag un rhiant;
• Bod y ddau riant yn gyflogedig, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
• At ddibenion y peilot, bydd angen i rieni/gofalwyr ennill yr hyn sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar gyflog byw cenedlaethol neu isafswm cyflog cenedlaethol yr wythnos; neu dderbyn budd-daliadau gofalu penodol. Ni fydd rhiant yn gymwys os yw’n ennill mwy na £100,000 yn gymwys ar gyfer Y Cynnig.
• Rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:- wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell. wedi cofrestru ar gwrs sy’n 10 wythnos o leiaf ac sy’n cael ei gyflwyno mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell.
Pan fydd rhieni wedi gwahanu ond nad ydynt yn rhannu gwarchodaeth gyfartal o’r plentyn, bydd y rhiant â phrif warchodaeth yn gymwys i gael y Y Cynnig (os yw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd). Pan fydd rhieni’n rhannu gwarchodaeth gyfartal bydd angen enwebu un rhiant fel rhiant arweiniol y Y Cynnig.
Bydd angen i rieni, gwarcheidwaid, llys-rieni a phartneriaid sy’n cyd-fyw fodloni’r meini prawf cymhwysedd er mwyn i blentyn sy’n byw ar yr aelwyd honno gael y Y Cynnig.
Beth fydd yn digwydd os byddaf i neu fy mhartner yn colli ein swydd?
Os nad yw rhiant bellach yn gymwys, rhoddir cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos pryd y gall barhau i gael y Y Cynnig.