
Ein Cred
Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gartref, ond yn fwy na hynny, fod pawb yn haeddu’r hawl i deimlo’n ddiogel, eu bod yn werthfawr i eraill, ac i deimlo’n bositif ynglŷn â’u dyfodol.
Mae The Wallich yn elusen ddigartrefedd yng Nghymru sy’n gweithredu dan dri amcan craidd: cael pobl oddi ar y strydoedd; cadw pobl oddi ar y strydoedd; a chreu cyfleoedd i bobl.
Ein Gweledigaeth
Cymru lle mae pobl yn sefyll gyda’i gilydd i ddarparu gobaith, cymorth ac atebion i roi pen ar ddigartrefedd.
Rydyn ni’n elusen ddigartrefedd yng Nghymru sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni’r weledigaeth hon ochr yn ochr â’n staff, ein hasiantaethau partner ac, yn bwysicach na dim, ochr yn ochr â’r bobl a gefnogwn.