Newidiadau i Addysg Llawn Amser
Y Cwriciwlwm i Gymru
Addysg Feithrin i Blant 3 a 4 oed: Canllaw i Rieni a Gofalwyr
Derbyniadau ysgolion a newid ysgolion
Cliciwch yma i weld sut mae’r newidiadau i ddyddiad dechrau ysgolion cynradd Sir Gâr yn effeithio arnoch chi.
Addysg Feithrin Rhan Amser
A oes gennych blentyn dros 3 oed nad yw’n mynychu’r ysgol yn rhan-amser?
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i ddarpariaeth addysgol o ansawdd ym Mlynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen mewn lleoliad blynyddoedd cynnar cymeradwy, a hynny am ddim ar sail ran-amser o ddechrau’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd a chyn iddynt fynd i’r ysgol yn llawn-amser.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gynnig o leiaf 10 awr o addysg blynyddoedd cynnar am ddim i bob plentyn sy’n gymwys, a’i darparu mewn lleoliad cymeradwy.
Mewn lleoliad nas cynhelir a ariennir, gall cyllid am 10 awr yr wythnos fod yn hyblyg yn unol â’r oriau addysg a gynigir a’r capasiti ym mhob lleoliad. Mae ar gael ar gyfer tri tymor i ddisgyblion a annwyd ar ôl 1/09/2021. Bydd angen i chi wneud cais am le llawn amser yn yr ysgol y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.”
Gweler y ddolen gyswllt isod i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am le mewn ysgol.
Gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed)
I weld rhestr o leoliadau cymeradwy nas cynhelir sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar yn eich ardal, cliciwch ar y ddolen isod:
Lleoliadau Nas Cynhelir Sir Gâr Rhagfyr 25
Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Cyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar
– Yn ystod y cyfnod a ariannwyd, rhaid i’r plentyn fod yn ei dymor cyntaf neu’i ail dymor ar ôl ei ben-blwydd yn 3 oed.
Yn Sir Gaerfyrddin, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Addysg Feithrin a ariennir:
- Rhaid i blant fynychu o leiaf dwy sesiwn addysg feithrin yr wythnos.
- Ni fyddwn yn rhannu cyllid addysg feithrin rhwng darparwyr cymeradwy.
Sut ydw i’n gwneud cais am Gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar?
- Cadarnhewch gyda’ch dewis leoliad fod ganddynt le ar gael i’ch plentyn.
- Cliciwch yma i gwblhau’r Cais am Gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Ar gyfer pob tymor academaidd, mae ceisiadau gan rieni cymwys yn agor 6 wythnos cyn diwedd y tymor, ar gyfer derbyn cyllid ar gyfer y tymor academaidd canlynol. Ar ôl cyflwyno eich cais bydd yr Adran Addysg yn cadarnhau gyda rhieni a’r darparwr gofal plant o fewn 10 diwrnod gwaith.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 diwrnod gwaith cyn dechrau’r tymor academaidd perthnasol. Bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol.
Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
Yn ogystal â 10 awr yr wythnos o gyllid Addysg Blynyddoedd Cynnar, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael 20 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma
Os oes gennych ymholiadau am Gyllid Addysg y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch â Thîm y Blynyddoedd Cynnar drwy e-bost:
ymholiadaucynniggofalplantaddysg@sirgar.gov.uk
Derbyn i Ysgolion / Newid Ysgol (Sir Gar)
Gwneud cais am:
- gwneud cais am le mewn ysgol – plant 3 oed
- gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- symud i ysgol uwchradd
- newid ysgol
cliciwch ar y dolenni isod:
Gweithwyr Ymgysylltu â Theuluoedd
Mae Gweithwyr Ymgysylltu â Theuluoedd yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant rhwng 5 – 16 oed os oes pryderon ynghylch presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a phrydlondeb.
Maen nhw’n gweithio gyda theuluoedd i weld pam fod plant/pobl ifanc yn cael problemau neu rwystrau i ddysgu ac yn helpu i gynllunio sut i wella’u presenoldeb.
Cysylltwch â’r gwasanaeth drwy eich ysgol.
Cynorthwyo Plant Milwyr yn ysgolion Cymru
Cyfamod Lluoedd Arfog
Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect y Cymorth i Addysg Plant Milwyr yng Nghymru gan:
Millie Taylor
Swyddog Prosiect Cymru dros Addysg Plant Milwyr
02920 468 616
Mae addysg yn dechrau yn y cartref
Helpu plant i fod yn ‘barod i ddysgu’ pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol:
http://gov.wales/docs/dcells/publications/160711-ready-to-learn-leaflet-en.pdf