Ymwelwyr Iechyd

Mae Ymwelwyr Iechyd yn Nyrsys Iechyd y Cyhoedd. Maent yn gweithio gyda theuluoedd i hybu iechyd da ac i atal salwch. Mae Ymwelydd Iechyd yn cael ei bennu i deuluoedd 10-14 diwrnod ar ôl genedigaeth baban newydd hyd nes ei fod yn 5 oed.

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi cysylltiadau allweddol Ymwelwyr Iechyd ar gyfer teuluoedd:

  1. Ymweliad geni 10 -14 diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni.
  2. Imiwneiddiadau sylfaenol yn eich meddygfa deuluol yn 8, 12 ac 16 wythnos oed.
  3. Bydd ymweliad cartref hefyd yn cael ei gynnig rhwng 8 ac 16 wythnos.
  4. Ymweliad cartref yn 6 mis oed.
  5. Imiwneiddiadau wedi’u hamserlennu yn 12-13 mis oed.
  6. Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 15 mis oed.
  7. Mae pob plentyn yng Nghymru yn cael asesiad datblygiadol yn 27 mis oed.
  8. Imiwneiddiadau cyn-ysgol yn 3 blwydd a 4 mis oed.
  9. Yn 5 oed bydd cofnod iechyd eich plentyn yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol.

Yn ystod yr ymweliadau, bydd Ymwelwyr Iechyd yn asesu tyfiant a datblygiad babanod ac yn rhoi cyngor am faterion allweddol sy’n gwella iechyd megis Imiwneiddio, bwydo babanod, diddyfnu,  gofal y geg a diogelwch yn y cartref.

Maent hefyd yn cynnal clinigau galw heibio rheolaidd y gallwch eu defnyddio rhwng ymweliadau cartref.

Amseroedd Clinig Ymwelwyr Iechyd Cwm Gwendraeth:

  • Dydd Llun 1.30pm – 3.30pm ym Meddygfa Sarn, Pont-iets
  • Dydd Mawrth 9.30am-11.30am Canolfan Iechyd Crosshands (clinig Ymwelwyr Iechyd Tymbl)
  • Dydd Mercher 1.30pm – 4.30pm ym Meddygfa Coalbrook, Pontyberem
  • Dydd Iau 9.30am-11.30am Canolfan Iechyd Crosshands (clinig Ymwelwyr Iechyd Crosshands / Penygroes)

Imiwneiddio

Un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich plentyn rhag clefydau fel y frech goch, rwbela, tetanws a llid yr ymennydd yw drwy imiwneiddio. Cliciwch yma  am yr amserlen imiwneiddio ar gyfer eich plentyn.

Cyhoeddiad am COVID-19:
Yn ystod y cyfnod ansicr iawn hwn, cofiwch ei bod hyd yn oed yn fwy pwysig eich bod yn dilyn amserlen imiwneiddio eich plentyn. Mae clinigau imiwneiddio yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer, felly os ydych wedi colli eich apwyntiad, peidiwch â phoeni, y cyfan y mae angen ichi ei wneud yw cysylltu â’ch Ymwelydd Iechyd i aildrefnu’r apwyntiad

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Dechrau am oes

Dechrau am oes, cymorth a chyngor dibynadwy gan y GIG yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a bod yn rhiant. (Sylwch fod y wefan hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr).

Bwmp, Babi a Thu Hwnt

“Gofalu amdanoch eich hun a’ch babi drwy gydol eich beichiogrwydd a thu hwnt.” Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ar gyfer Bwmp, Babi a Thu Hwnt, e-Lyfr fersiwn 2, cliciwch  yma (Nodyn: dyma’r fersiwn Saesneg)

Imiwneiddio

Sicrhewch fod eich plentyn yn cael ei holl imiwneiddiadau i’w ddiogelu rhag clefydau y gellir eu hatal fel y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a llawer mwy. Cliciwch yma i weld yr amserlen imiwneiddio ar gyfer eich plentyn (Sylwch fod y wefan hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr).

Iechyd y Geg

Pydredd dannedd yw clefyd mwyaf cyffredin y geg sy’n effeithio ar blant yn y DU. Gall effeithio ar eu gallu i gysgu, bwyta, cymdeithasu a hyd yn oed siarad. Yn ffodus, drwy gymryd gofal da o’r geg, gellir atal pydredd dannedd bron bob amser.

Gan fod iechyd y geg mor bwysig, mae Ymwelwyr Iechyd yn gweithio gyda’r rhaglen gwella iechyd y geg a ariennir gan Lywodraeth Cymru o’r enw ‘Cynllun Gwên’.

I ddysgu mwy am Gynllun Gwên, cliciwch yma

Diogelwch yn y Cartref

Mae meddwl am ddiogelwch yn y cartref yn ffordd bwysig o helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn iach. I rieni, mae hyn yn golygu bod yn ymwybodol o risgiau a allai achosi anafiadau i blant, ac yna defnyddio strategaethau i helpu i’w hatal. Er enghraifft, defnyddio gatiau grisiau, cadw meddyginiaethau mewn cwpwrdd dan glo, neu storio cemegau peryglus fel hylifau glanhau mewn cypyrddau uchel. Y strategaeth bwysicaf i’w defnyddio i gadw plant yn ddiogel yw goruchwyliaeth, neu fod yn agos at eich plentyn wrth iddo chwarae, archwilio a dysgu. Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn trafod diogelwch yn y cartref gyda chi yn yr ymweliadau cyswllt allweddol, fel pan fydd eich plentyn yn dechrau symud o gwmpas mwy (tua 6 mis), ond gall ei drafod mewn unrhyw ymweliad a gallwch ofyn am gyngor ar unrhyw adeg.

Mae teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael cynnig archwiliad diogelwch yn y cartref am ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Byddant yn dod i asesu’r risg tân yn eich cartref a byddant hefyd yn gosod larwm mwg, yn rhad ac am ddim. Gall eich ymwelydd iechyd wneud yr atgyfeiriad hwn ar eich rhan, ond gallwch hefyd gysylltu â nhw’n uniongyrchol: Archwiliad Diogelwch yn y Cartref

Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Magu Plant yw’r swydd anoddaf yn y byd ac mae angen rhywfaint o gyngor a chefnogaeth arnom ni i gyd weithiau. Edrychwch ar y wefan Magu Plant. Rhowch amser iddo am awgrymiadau defnyddiol i helpu i ddeall datblygiad eich plentyn a rheoli cyfnodau heriol.

Tiny Happy People

Awgrymiadau ar sut i hybu sgiliau cyfathrebu eich plentyn drwy weithgareddau hwyliog pob dydd. Ewch i Tiny Happy People i weld mwy! (Sylwch fod y wefan hon yn Saesneg yn unig).

Gwybodaeth am fwydo ar y fron

Bwydo ar y Fron – Llaeth Mam

Mae tudalen Facebook Bwydo ar y Fron – Llaeth Mam yn cynnig cymorth â bwydo ar y fron i’r rheiny yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau.

Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron

Mae Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron (ABM) yn sefydliad gwirfoddol ac mae’n cefnogi mamau a theuluoedd, gan gynnig hyfforddiant a siarad dros deuluoedd sy’n bwydo ar y fron ar lefel eiriolaeth genedlaethol. (Nodyn: gwefan Saesneg yw hon_

Mae adnoddau am ddim ar gael ar y wefan yn ystod pandemig COVID-19.

Hapus iawn gyda pha mor gyflym yr anfonwyd y manylion allan.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button