Amseroedd Clinigau Cynenedigol Cwm Gwendraeth

  • Dydd Llun 9.20am – 3pm: Tymbl yng Nghanolfan Feddygol Cross Hands
  • Dydd Mawrth 9.20am – 3pm: Penygroes yng Nghanolfan Feddygol Cross Hands
  • Dydd Mercher 9.20am – 12pm: Meddygfa Pont-iets
  • Dydd Iau 9.20 – 12pm: Pontyberem ym Meddygfa Pont-iets
  • Dydd Gwener 9.30am – 12pm: Talybont a Llangennech ym Meddygfa Talybont

O fewn ein tîm rydym yn ffodus i gael Swyddog Cymorth Paratoi ar gyfer Rhianta

Mae Suzanna yn gweithio gyda theuluoedd yn ystod y cyfnod cynenedigol ac ôl-enedigol am hyd at 8 wythnos

  • Paratoi ar gyfer dyfodiad y babi – pacio bag ysbyty, paratoi ar gyfer bwydo ar y fron, cynaeafu colostrum.
  • Arddangos a / neu drafod sterileiddio a gwneud poteli.
  • Darparu cyngor ar ddiogelwch cwsg a sut i ymolchi babi.
  • Cymorth bwydo ar y fron – cyngor a chefnogaeth gyda lleoli a chysylltu’r babi ar y fron
  • Arwyddo ac atgyfeiriadau at wasanaethau h.y. tylino babanod, cymorth cwsg
  • Cefnogi rhieni yn ystod cyfnodau pryderus a helpu i oresgyn rhwystrau
  • Cefnogi a hyrwyddo annibyniaeth trwy fynd gyda chi i grwpiau, ymolchi babi am y tro cyntaf, mynd allan am dro ac ati.

Cadw babi yn ddiogel – The Lullaby Trust

Yn anffodus nid yw’r gwybodaeth yma ar gael yn Gymraeg

 

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button