Grantiau

CYLLID
Rydym wedi lansio nifer o grantiau i gefnogi busnesau presennol gyda thwf, yn ogystal â chefnogaeth i fusnesau newydd ddechrau. Cymerwch gip ar y cyllid amrywiol sydd ar gael fel y gallwch baratoi eich cais ymlaen llaw. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: businessfund@carmarthenshire.gov.uk

Cyllid (llyw.cymru)

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog ar agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU a bydd yn darparu cyllid dros y ddwy flynedd nesaf hyd at fis Mawrth 2025. Ei gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o ymyriadau i adeiladu balchder yn ei le a gwella cyfleoedd bywyd.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (llyw.cymru)

Yn meddwl rhedeg busnes?

Mae Busnes Cymru yma i’ch helpu gyda’ch camau cyntaf i hunangyflogaeth gyda dewis eang ac ymarferol o ganllawiau a chymorth busnes. Mae gennym daflenni ffeithiau am ddim a mynediad at gyngor a chyfarwyddyd busnes i’ch helpu i ddewis y busnes cywir i chi, ynghyd ag adnoddau ar-lein i feithrin eich hyder wrth ddechrau busnes. https://businesswales.gov.wales/cy/yn-meddwl-rhedeg-busnes

Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc

Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu pobl ifanc o dan 25 oed, sy’n byw neu’n dychwelyd i Gymru i fod yn hunangyflogedig.

Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc | Busnes Cymru (gov.wales)

CYNLLUN GRANT CYFALAF BACH BLYNYDDOEDD CYNNAR A GOFAL PLANT

Rydym yn croesawu ceisiadau gan y darparwyr canlynol

  • Gofal Dydd Llawn, Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Chwarae, Gofal y tu allan i’r ysgol a Gwarchodwyr
  • Rhaid cofrestru lleoliadau gofal plant gyda AGC/yn y broses o gwblhau cofrestru
  • Rhaid i leoliadau gofal plant fod wedi’u lleoli yn Sir Gaerfyrddin – ni ellir fod yn gymwys i fwy nag un awdurdod lleol

Faint o gyllid sydd ar gael?

  • Gwarchodwyr £10,000
  • Darparwyr Gofal Plant cofrestrwyd am 15 neu llai £10,000
  • Darparwyr Gofal Plant wedi cofrestru am 16 hyd at 29 o lefydd £15,000
  • Darparwyr Gofal Plant wedi cofrestru am 30 neu fwy o lefydd £20,000

Am fwy o wybodaeth ebostiwch- smallgrantscheme@sirgar.gov.uk   

Grant Cynaliadwyedd  

Mae’r Grant ar gael i ddarpariaeth gofal plant cofrestredig AGC yn Sir Gaerfyrddin  i helpu tuag at gostau refeniw a nodwyd.

Cyflwyniad

Mae tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Gofal Plant a Chwarae yn gwahodd ceisiadau am grantiau cynaladwyedd i gefnogi sefydliadau gofal plant cofrestredig. Ni fydd swm y grant a roddir fel arfer yn uwch na £1,000.

Pwy all wneud cais?

  • Unrhyw grŵp neu unigolyn sydd wedi cofrestru gyda AGC sy’n gweithio gyda phlant 0-12 oed mewn trefniant gofal dyd .
  • Rhaid bod y gwasanaeth wedi cofrestru ar Dewis Cymru.
  • Un cais a dderbynnir lle mae mwy nag un Gwarchodwr Plant yn cydweithio.

Am beth allwch chi wneud cais?

Ymhlith eitemau gwariant mae costau staffio (ac nid wedi ei hariannu o dan y Cynllun Seibiant), rhent, gwresogi a goleuo, gofynion hanfodol o ran iechyd a diogelwch (profion blynyddol Profwr Dyfeisiau Cludadwy (PAT), Larwm Tân, Boeler, prawf prif gyflenwad trydan, Yswiriant Busnes, Aelodaeth CWLWM, Nwyddau PPE Blwch/Offer Cymorth Cyntaf, Offer Tȃn, Costau Cyfrifydd, Costau Cyfrifydd ar gyfer Asesiad Personol Cyllid y Wlad o ran rhedeg darpariaeth rhwng cyfnod 2024-25.

Am fwy o wybodaeth ebostiwch-grantcynaliadwyedd@sirgar.gov.uk

CYLLID
Cyllid (llyw.cymru)

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button