Cymorth Perthynas

Mae perthnasoedd yn rhan fawr o fywyd.

Boed yn berthnasoedd gyda phartneriaid, plant, cymdogion, teulu ehangach neu ffrindiau, cydweithwyr neu unrhyw un yn y canol, maent yn effeithio ar bob rhan o’n bywydau.

Mae perthnasoedd pawb yn wahanol, ond weithiau rydym yn wynebu materion tebyg.

Gwyddom fod adegau allweddol yn ein bywydau pan fydd ein perthnasoedd o dan straen ychwanegol, fel cael babi, colli ein swydd neu gael diagnosis o gyflwr iechyd hirdymor.

Mae’r argyfwng coronafeirws hefyd wedi newid y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd. Mae ein perthnasoedd wedi bod yn hynod bwysig i’n cael drwy hyn ond efallai eu bod hefyd wedi bod o dan bwysau ychwanegol.

Os yw eich teulu’n mynd drwy gyfnod anodd, efallai y bydd y wybodaeth ar y gwefannau hyn yn ddefnyddiol.


Cymorth Perthynas

YMARFERWYR RHIANTA

Gall teuluoedd Sir Gaerfyrddin fewngofnodi a defnyddio adnodd digidol One Plus One sydd am ddim – mae’n cynnwys y canlynol:

“Me, You and Baby Too” ar gyfer rhieni newydd a darpar rieni. Gallwch gael gwybod am yr hyn y mae babanod yn ei ddysgu gennych, hyd yn oed cyn iddynt gael eu geni, sut y gallwch chi a’ch partner gefnogi eich gilydd orau, sut i siarad i godi pynciau anodd a sut mae dadleuon yn dechrau a sut i’w hatal.

“Arguing Better” ar gyfer rhieni sydd am ddysgu ffyrdd iach o ymdopi â straen. Dysgwch fwy am sut i gefnogi eich gilydd yn ystod cyfnodau o straen a’r ffordd orau o siarad am broblemau fel y gallwch ddod o hyd i atebion gyda’ch gilydd.

“Getting it Right for Children” ar gyfer rhieni sy’n gwahanu neu sydd wedi gwahanu ac sy’n profi lefelau uchel o wrthdaro. Mae hyn yn edrych ar sut i aros yn ddigynnwrf a gwrando yn ogystal â siarad, pam mae’n ddefnyddiol gweld pethau o safbwynt gwahanol a beth i’w wneud i atal trafodaeth rhag troi’n ddadl.

Pan fydd rhieni’n dadlau, nid ydynt bob amser yn gweld sut mae’n effeithio ar eu plant. Mae’r casgliad hwn o fideos yn helpu rhieni i weld dadleuon teuluol o safbwynt eu plant ac yn cynnig ffyrdd gwahanol o ymdrin ag anghytundebau. https://www.seeitdifferently.org/

Gwneud gwahanu yn llai cymhleth
gwybodaeth i helpu rhieni sydd wedi gwahanu weithio gyda’i gilydd er lles eu plant. Mae’r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am bob math o bynciau gan gynnwys bod yn rhieni ar y cyd, cyfryngu a threfniadau gofal plant. https://www.gov.uk/separation-divorce

Magu’r Plant Gyda’n Gilydd – Cefnogi Plant Wrth Wahanu
dyma ganllaw syml ac effeithiol a fwriedir i helpu rhieni sydd wedi gwahanu i ddeall beth mae ar eu plant ei angen fwyaf ganddynt a dysgu sut y gallent eu cefnogi drwy’r proses. https://magurplantgydangilydd.llyw.cymru/


Magu Plant


Mae ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’ gan Lywodraeth Cymru yn cynnig Awgrymiadau a Chyngor Arbenigol ar gyfer Heriau Rhianta 

Magu plant ar y cyd a chymorth perthynas

Bydd Gweithredu dros Blant yn rhoi cyngor rhianta ymarferol y gallwch ddibynnu arno. Dewch o hyd i atebion i gwestiynau am rianta mewn erthyglau cynghori neu siaradwch â hyfforddwr rhianta am unrhyw beth sy’n eich poeni. Mae’r cyfan am ddim, ac nid oes unrhyw bwnc yn rhy fawr, yn rhy fach neu’n rhy chwithig.

Mae Family Lives yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim ar bob agwedd ar fywyd teuluol, gan gynnwys datblygiad plant, problemau o ran ysgolion, cymorth rhianta a chymorth perthynas, ymddygiad ymosodol yn y cartref, bwlio, ymddygiad peryglus yn yr arddegau, a phryderon iechyd meddwl rhieni a’u plant.


Domestic Abuse

Cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un. Mae’n cynnwys cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol mewn perthynas cwpl neu rhwng aelodau o’r teulu. Nid oes rhaid i chi aros am argyfwng i ddod o hyd i gymorth. Os yw cam-drin domestig yn digwydd i chi, mae’n bwysig dweud wrth rywun a chofio nad ydych ar eich pen eich hun.

Mae Calan, Threshold a CarmDAS yn darparu gwybodaeth a chymorth i deuluoedd y mae can-drin domestig yn effeithio arnynt ledled Sir Gaerfyrddin.

Ffoniwch y llinell gymorth ar 0808 8010 800 neu ewch i’r wefan Byw Heb Ofn am ragor o wybodaeth a ffynonellau cymorth

Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae wir wedi bod o gymorth felly diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button