Hwb Cymorth Cynnar
Mae’r Hwb Cymorth Cynnar (eisioes yn Tim o Amgylch y Teulu) yn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy ddefnyddio’r dull cymorth cynnar i sicrhau newid cadarnhaol, parhaol. Trwy gynnig cymorth yn gynnar, rydyn ni’n helpu i atal problemau rhag gwaethygu a sicrhau bod teuluoedd yn cael yr help cywir ar yr adeg iawn.
Pwy ydyn ni’n ei gefnogi
Mae’r Hwb Cymorth Cynnar yn cefnogi teuluoedd sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Gall rhieni a gofalwyr gysylltu â ni’n uniongyrchol os ydyn nhw’n teimlo y byddai eu teulu yn elwa ar gymorth ychwanegol.
Sut allwn ni helpu
Mae cymorth wedi’i deilwra i anghenion pob teulu a gall gynnwys cymorth gyda’r canlynol:
- Cryfhau perthnasoedd teuluol a lleihau gwrthdaro
- Rheoli ymddygiad plant a chefnogi arferion cadarnhaol
- Tai
- Cyllid
- Iechyd a llesiant
- Cymorth i ofalwyr ifanc
- Cymorth niwed cudd a cham-drin domestig
- Cysylltu teuluoedd â gwasanaethau lleol a chymorth cymunedol
Mae’r holl gymorth yn cael ei gynnig ar sail wirfoddol, gyda rhieni a gofalwyr yn dewis ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth â ni.
Sut ydyn ni’n gweithio
Rydyn ni’n cymryd dull cydweithredol i ddarparu gwasanaeth unedig sy’n integreiddio gwahanol wasanaethau cymorth.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar gryfderau, gan adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio’n dda yn eich teulu wrth eich helpu i oresgyn heriau gyda’ch gilydd.
Cysylltwch â ni
Os ydych chi’n meddwl y gallai’r Hwb Cymorth Cynnar wneud gwahaniaeth i chi a’ch teulu, cysylltwch â ni.
Rhif Ffôn: 01554 742277
E-bost: EarlyHelpHub@sirgar.gov.uk
Cyfeiriad:
Hwb Cymorth Cynnar
Hen Ysgol Plant Bach y Morfa, Stryd Newydd, Morfa, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2DQ
Oriau swyddfa:
Dydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm
Dydd Gwener: 9am i 4:30pm
Cysylltwch am fwy o gefnogaeth
Isod mae cysylltiadau defnyddiol rhag ofn y bod angen cymorth brys arnoch.
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant – 01554 742322 (oriau tu allan 0300 333 2222)
Llesiant Delta (Gwasanaethau Oedolion) – 0300 333 2222
Bywyd ACTif – Cwrs i’ch helpu chi wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. I ddechrau ewch i phw.nhs.wales/activateyourlife.
SilverCloud – Therapi ar-lein sy’n defnyddio dulliau megis Therapi Ymddygiad Gwybyddol i helpu pobl i reoli eu problemau. Ewch i nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.
C.A.L.L Llinell Gymorth Iechyd Meddwl – Yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol 24/7 i unrhyw un sy’n bryderus am iechyd meddwl ei hun, perthynas neu ffrind. Ffoniwch 0800132737, text “help” to 81066 neu ewch i callhelpline.org.uk/.
MIND Monitro Gweithredol – yn ddarparu hunangymorth dan arweiniad am 6 wythnos am pryder, iselder, hunan-barch, stres, unugrwydd, a mwy. Ewch i https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/active-monitoring-form/.
- Mind Cymru Infoline
Am wybodaeth ar bob fath o problemau iechyd meddwl ffoniwch 0300 123 3393, ebost info@mind.org.uk neu text 86463. - Samaritans Cymru
Yn aberthu lle diogel i siarad am unrhyw beth sydd yn eich poeni 24/7. Ffoniwch 116 123, neu ebost jo@samaritans.org - PAPYRUS
Cyndeithas rhwystro hunanladdiad ifanc. HOPELINEUK 0800 068 4141 (papyrus-uk.org) - MEIC
Cefnogaeth i blant a phobl ifanc. Ffoniwch 080880 23456, text 84001 (meiccymru.org)
Cyfeiriad:
Hwb Cymorth Cynnar
Hen Ysgol Y Babanod Morfa Stryd Newydd Llanelli Sir Caerfyrddin SA15 2DQ
Rhif Ffon:
01267 246555

