Cynllun Grant Cyfalaf Bach 2025/26
Noder bod newidiadau sylweddol i’r broses ymgeisio yn y flwyddyn ariannol hon, fel y manylir isod:
- Gwahoddir ceisiadau ar sail y cyntaf i’r felin tan 30ain o Dachwedd 2025 neu nes bod yr holl arian wedi’i ddyfarnu, pa bynnag un ddaw gyntaf.
- Gall ceisiadau gynnwys ceisiadau am waith ac offer ar yr un ffurflen gais.
- Ni fydd offer TG na cherbydau yn gymwys i gael cyllid (ac eithrio darparwyr sydd newydd gofrestru).
- Rhaid uwchlwytho dyfynbrisiau contractwyr gyda’ch ffurflen er mwyn cyflwyno’ch cais.
- Trothwy uchaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid i warchodwyr plant fydd £7,500.00.
Mae pob darparwr gofal plant sydd wedi cofrestru gyda CIW yn gymwys i wneud cais os ydynt eisoes wedi derbyn Cynllun Grantiau Bach y Cynnig Gofal Plant mewn blynyddoedd blaenorol.
Cynhelir paneli ar y dyddiadau isod. Er mwyn sicrhau bod eich cais a’ch dogfennau ategol yn cael eu prosesu’n amserol, ac i ganiatáu digon o amser i ateb unrhyw ymholiadau, cyflwynwch eich cais a’r holl ddogfennau ategol o leiaf wythnos cyn dyddiad y panel.
- Dydd Gwener 1af o Awst 2025
- Dydd Llun 1af o Fedi 2025
- Dydd Mercher 1af o Hydref 2025
- Dydd Llun 3ydd o Dachwedd 2025
- Dydd Llun 1af o Ragfyr 2025
Y dyddiad cau TERFYNOL ar gyfer y cyflwyniad hwn fydd dydd Sul 30ain o Dachwedd 2025.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar 01554 742554 neu anfonwch e-bost at smallgrantscheme@carmarthenshire.gov.uk