Mynediad at Ofal Plant yng Nghymru: Lleisiau Rhieni
Mynediad at Ofal Plant yng Nghymru: Lleisiau Rhieni
A ydych yn teimlo’n angerddol ynghylch creu system gofal plant decach yng Nghymru? Gall eich llais a’ch gweithredoedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol!
Ymunwch ag ymgyrch #GwneudGofalYnDeg trwy ddweud eich dweud am ofal plant!
Trwy rannu eich profiadau a’ch argymhellion, byddwch yn ein helpu i eiriol dros ddiwygiadau ystyrlon a sicrhau bod gan bob plentyn a phawb sy’n rhoi gofal fynediad at opsiynau gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel.
Cymerwch ran yn ein harolwg a lledaenwch y neges!
Cymerwch ychydig funudau i lenwi ein harolwg a gwneud i’ch llais gyfrif. Rhannwch ef â’ch partner, eich ffrindiau, a’ch rhwydweithiau rhieni gan ddefnyddio pob dull sydd ar gael i chi: Grwpiau WhatsApp, grwpiau babanod/NCT/Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, a’r tu hwnt! Ewch i https://bit.ly/OfalPlant i ddechrau arni.
Cofiwch, hyd yn oed os nad oes gennych blant o dan naw oed, efallai y bydd gan rywun yn eich rhwydwaith gyfraniadau gwerthfawr i’w rhannu. Helpwch ni i gyrraedd cynifer o leisiau â phosib trwy rannu’r arolwg yn eang!
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu system gofal plant yng Nghymru sy’n gweithio i bawb.