
Datblygu eich darpariaeth Cymraeg
Rhaglenni Cenedlaethol
Croesi’r Bont – Meithrin
Mae’r rhaglen drochi Croesi’r Bont yn cyflwyno’r Gymraeg i blant yn ein Cylchoedd Meithrin, lle mae’r holl weithgareddau chwarae’n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg i annog cyfathrebu â chyfoedion ac oedolion yn y iaith.
Addewid Cymraeg
Ydych chi’n awyddus i gynnwys mwy o’r Gymraeg yn eich lleoliad, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Darganfyddwch adnodd cyffrous CWLWM, Yr Addewid Cymraeg. Mae wedi’i gynllunio i’ch helpu i weu’r Gymraeg i mewn i’ch arferion dyddiol drwy gamau syml, ymarferol a syniadau creadigol wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer y sector gofal plant.
Mae gan bob sefydliad ymbarél swyddogion sy’n gallu eich cefnogi wrth i chi weithio drwy’r rhaglen. Cysylltwch â’ch un chi yma i gofrestru:
Cynllun Plethu
Mae Cynllun Plethu yn brosiect partneriaeth rhwng Early Years Wales a Mudiad Meithrin sy’n nodi lleoliadau gofal plant addawol sy’n gweithio drwy’r Saesneg neu’n ddwyieithog ac yn eu cefnogi i symud tuag at drochi cyfrwng Cymraeg llawn.
Dathlu Diwylliant a Chynefin
Mudiad Meithrin – Cynefin Cyflwyniad Cynefin
Cwlwm – Cynefin Resources Cynefin | cwlwm
Nodau Natur – Learning and Development resources – Meithrin






