➭ Pryd galla i wneud cais?
Gallwch wneud cais y tymor mae’ch plentyn yn troi’n dri am gyllid i ddechrau’r tymor canlynol. Dyma’r dyddiadau ar gyfer pryd mae ceisiadau yn agor a pryd bydd eich plentyn yn gymwys:
Dyddiad Geni’r Plentyn
01/09/2022 – 31/12/2022
01/01/2023 – 31/03/2023
01/04/2023 – 31/08/2023
01/09/2023 – 31/12/2023
Ceisiadau Ar agor
22ain o Hydref 2025
28ain o Ionawr 2026
19eg o Fehefin 2026
21ain o Hydref 2026
Dyddiad Cychwyn Cynharaf
05/01/2026 – Dechrau Tymor y Gwanwyn
13/04/2026 – Dechrau Tymor yr Haf
02/09/2026 – Dechrau Tymor yr Hydref
04/01/2027 – Dechrau Tymor y Gwanwyn
Os byddwch yn dechrau defnyddio gofal plant cyn i’ch cais cael ei gymeradwyo , chi sydd yn gyfrifol am dalu amdano. Ni chaiff cyllid y Cynnig ei ôl-ddyddio i dalu am unrhyw ofal plant a ddefnyddiwyd cyn i’ch cais gael ei gymeradwyo.
Bydd yr arian yn cychwyn pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo ac rydych wedi sefydlu cytundeb gofal plant gyda’ch darparwr ac mae’r cytundeb hwn wedi ei dderbyn.