Rhaglen Grantiau Cronfa’r Teulu Cymru

Mae gan Gronfa’r Teulu grantiau ar gael i gefnogi teuluoedd yng Nghymru sy’n magu plentyn anabl neu ddifrifol wael o dan 18 oed, ac sy’n byw ar incwm isel. Mae eitemau grant yn cynnwys seibiannau teuluol, offer chwarae awyr agored, gemau, teganau synhwyraidd, technoleg i’r plentyn a llawer mwy. Oherwydd cyllid cyfyngedig, dim ond rhwng 12pm ddydd Llun, 6 Hydref a dydd Llun, 3 Tachwedd 2025 y mae’r rhaglen grant hon ar agor.

Edrychwch ar wefan Cronfa’r Teulu am fwy o fanylion.