Gwybodaeth i Bobl Ifanc

prev
next
play
pause

Gwybodaeth i Bobl Ifanc

Sut mae TAF yn gweithio

Os ydych yn cael anawsterau neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gall dull TAF ddod â’r bobl iawn ynghyd i’ch helpu chi. GYDA’N GILYDD byddwn yn edrych ar ffyrdd o’ch helpu i ddatblygu eich cryfderau a goresgyn anawsterau mewn meysydd eraill lle gallech elwa o gymorth ychwanegol.

Bydd un person, Gweithiwr Allweddol TAF, yn siarad gyda chi ac yn cwblhau asesiad Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio’r cymorth gorau ichi.

Mae gweithiwr allweddol yn berson rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gweithio gydag ef/hi. Bydd ef/hi yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei ddilyn a’i fod yn gweithio.

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallai TAF eich helpu chi, gallwch lawrlwytho’r daflen Gwybodaeth i Bobl Ifanc yma.

Cofiwch…
Mae TAF yn broses WIRFODDOL a gallwch ddweud ‘Na’ AR UNRHYW ADEG os byddwch yn newid eich meddwl.

Sut ydw i’n cael mynediad i Gymorth TAF?

Mae cael mynediad i gymorth yn syml. Gallwch lenwi’r ffurflen Mynediad i Gymorth TAF a’i hanfon drwy e-bost i TAF@sirgar.gov.uk a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi. Fel arall, gallwch fynd â’r ffurflen i unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin neu Swyddog Ieuenctid.

Cam 1 – Cais am wasanaeth

Gall cais am gymorth TAF gael ei wneud gan weithiwr proffesiynol sy’n eich adnabod chi ac efallai eich teulu, fel athro, meddyg teulu, gweithiwr ieuenctid, neu gallwch wneud cais am gymorth eich hunan.

Mae’n rhaid ichi roi eich caniatâd ar gyfer yr holl geisiadau am Fynediad i Gymorth, felly chi sy’n penderfynu a ydych yn derbyn cymorth TAF a gallwch roi’r gorau iddo ar unrhyw adeg.

Bydd cydgysylltwyr TAF yn penderfynu a oes angen ymateb TAF ar gyfer eich atgyfeiriad – os na, cewch eich cyfeirio at un asiantaeth ar gyfer cymorth.

 

Team Around the Family, smiling children

Cam 2 – Ymweliad cartref a chynllun cymorth

Bydd cydgysylltwyr TAF yn trefnu bod rhywun yn ymweld â chi yn eich cartref neu yn rhywle sy’n gyfleus i chi, er mwyn siarad gyda chi am yr hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn y gall fod arnoch angen cymorth ag ef.

Bydd yr ymweliad hwn yn eich helpu i nodi eich cryfderau a’ch anghenion ac yn eich cynorthwyo wrth lunio cynllun cymorth.

Y nod yw cynnal eich ymweliad cyn pen 3 wythnos ar ôl derbyn eich cais am Fynediad i Gymorth.

 

Cam 3 – Cynllun Cymorth

Mae eich Cynllun Cymorth yn eiddo i CHI, felly bydd yr holl gamau gweithredu yn cael eu cytuno gyda chi a, lle bo’n briodol, eich teulu.

Bydd eich Cynllun Cymorth yn cynnwys camau gweithredu i chi, i’ch teulu os yw’n briodol, ac i asiantaethau eraill.

Os ydych yn cytuno â hynny, y person sy’n ymweld â chi fydd eich Gweithiwr Allweddol. Y person hwn fydd eich prif gyswllt wrth ichi weithio drwy eich cynllun.

 

Cam 4 – Adolygu

Bob 3 mis, neu’n amlach os oes angen, byddwch yn adolygu eich Cynllun Cymorth gyda’ch Gweithiwr Allweddol i weld sut mae pethau’n mynd ac i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn a’ch bod yn derbyn y cymorth iawn.

Bydd eich Cynllun Cymorth yn cael ei adolygu a’i newid yn ôl yr angen i ymateb i’ch anghenion sy’n newid.

Bydd y Cynllun a’r Cymorth yn parhau ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd hyd nes y bydd yr holl ganlyniadau wedi’u cyflawni neu na fydd angen neu eisiau’r cymorth arnoch mwyach. Bryd hynny, bydd eich achos yn cael ei gau.

 

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button