➭ Beth yw Y Cynnig Gofal Plant?
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch yn galluogi rhieni i weithio, gan gefnogi ei hymgyrch i hybu twf economaidd, mynd i’r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau.
Fe allet gael hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.
Gan fod y Y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn gynnig cyfun, sy’n cynnwys addysg FPN a darpariaeth gofal plant, mae’n rhaid i blant fod mewn oedran penodol i fod yn gymwys i gael y ddwy elfen hyn ar yr un pryd.
Mae’r Y Cynnig yn uchafswm o 30 awr o addysg gyfun a gofal plant. Os yw rhieni’n gymwys, bydd plant fel arfer yn derbyn elfen gofal plant y Y Cynnig o’r tymor ar ôl eu penblwydd yn dair oed, nes eu bod yn cael Y Cynnig lle addysg amser llawn.
*Ni ellir newid oriau Cyfnod Sylfaen am oriau Gofal Plant*
Cyllid Dysgu Sylfaen
Mae gan bob plentyn hawl i gael addysg gynnar (y Cyfnod Sylfaen Meithrin cynt) o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Mae pob awdurdod lleol yn darparu o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg gynnar, a gallai hyn fod mewn:
• Ysgol leol
• Cylch chwarae
• Meithrinfa ddydd
• Cylch Meithrin
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn ariannu GOFAL PLANT yn unig. Ni allwch wneud cais am oriau addysg rhan amser trwy’r cais hwn.
Am fwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o leoliadau ar gael ar ein tudalen https://fis.carmarthenshire.gov.wales/lleoliadau-cymeradwy-cyfredol/?lang=cy
Nid yw’n ofynnol i rieni fanteisio ar yr addysg gynnar sydd ar gael iddynt er mwyn defnyddio’r Cynnig Gofal Plant. Fodd bynnag, bydd nifer yr oriau a fydd ar gael iddynt yn cynnwys yr oriau hyn, p’un a ydynt yn manteisio arnynt ai peidio.
Lleoliadau Nas Cynhelir Sir Gâr Ebrill 2024
Rhestr o Ysgolion Cyfnod Sylfaen Gorffenaf 2023
Os oes gennych ymholiadau am Gyllid Addysg y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch â Thim y Blynyddoedd Cynnar drwy e-bost: nascynhelir@sirgar.gov.uk