
Bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn ymuno â theuluoedd ledled y wlad i ddathlu Wythnos
Genedlaethol Magu Plant 2025, a gynhelir o ddydd Llun 20fed i ddydd Gwener 24ain
Hydref.
Mae thema eleni, “Rhianta Llesol”, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi rhieni i rianta’n
llesol gan hefyd gydnabod pwysigrwydd hunanofal a’u lles eu hunain.
Beth yw Wythnos Genedlaethol Magu Plant?
Mae Wythnos Genedlaethol Magu Plant yn dathlu, yn cefnogi ac yn codi ymwybyddiaeth
o’r rôl hanfodol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae wrth siapio bywydau plant.
Drwy gydol yr wythnos, bydd Cyswllt Rhieni Cymru yn:
Amlygu’r heriau sy’n wynebu rhieni
Mwyhau lleisiau rhieni
Hyrwyddo mynediad at gefnogaeth, cyngor ac adnoddau i deuluoedd.
Mae’r wythnos hon yn gyfle i galonogi rhieni, hybu lles plant, a phwysleisio pwysigrwydd
atal, ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i deuluoedd.
Cyswllt Rhieni Cymru
Dan arweiniad Plant yng Nghymru a chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Cyswllt Rhieni
Cymru yn rhoi llais i rieni a gofalwyr ledled Cymru wrth lunio’r polisïau a’r gwasanaethau
sy’n effeithio ar deuluoedd.
Mae rhieni a gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod nhw eisiau:
Teimlo bod eu profiadau bywyd yn cael eu gwerthfawrogi
Bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau yn gynnar, nid fel ymarfer ticio
blychau
Derbyn adborth ar sut mae eu mewnbwn yn cael ei ddefnyddio
Drwy wrando ar rieni a gofalwyr, gallwn helpu i greu gwasanaethau o ansawdd uchel
sy’n cryfhau teuluoedd ac yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a’u cyflawni.
Adnoddau i rieni a gofalwyr.
Dewch o hyd i awgrymiadau a chymorth ymarferol i amddiffyn yn a gwella eich lles
meddyliol yn https://hapus.cymru/lles-meddyliol/ffyrdd-o-wella-lles/
Os ydych chi’n chwilio am gyngor ac arweiniad ar gadw’ch plant yn ddiogel ar-lein a
rheoli defnydd sgrin, ewch i
https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amseriddo/plant-8-12-oed/we-ar-cyfryngau-cymdeithasol
am gymorth ac adnoddau dibynadwy.
Darganfyddwch ble i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn agos atoch chi yn
https://www.mind.org.uk/about-us/local-minds
Dysgwch fwy am hawliau plant a sut y gallwch eu cefnogi
am wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu i reoli cyllid eich teulu yn hyderus.
Ewch i https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/cyllideb-y-teulu
am wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu i reoli cyllid eich teulu yn hyderus.