Mae’r Gwasanaethau Plant wedi ymrwymo i gydweithio â theuluoedd i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i Deuluoedd a’u Plant.

Pan fyddwn yn adolygu gwasanaethau, credwn ei bod yn bwysig cynnwys plant a theuluoedd, er mwyn iddynt rannu eu syniadau a helpu i lywio’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Rydym yn galw hyn yn gweithio mewn ffordd gyd-gynhyrchiol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i blant anabl, ac mae rhai o’n gwasanaethau’n cael eu hariannu gan grant Llywodraeth Cymru o’r enw Teuluoedd yn Gyntaf.

Wrth i ddiwedd y flwyddyn agosau, ein nod yw adolygu ein Prosiect Teuluoedd yn Gyntaf, Tîm Camau Bach, a fydd yn bwydo i mewn i adolygiad mwy o’r rhaglen.  Ein nod yw gweithredu unrhyw newidiadau erbyn 1 Ebrill 2021.

Mae’n allweddol eich bod yn cael eich cynnwys yn ystod yr adolygiad a thros yr ychydig fisoedd nesaf hoffem i chi gymryd rhan. Bydd cyfleoedd i chi fynychu grwpiau ffocws rhithwir, gwirfoddoli i helpu i lunio ein manyleb gwasanaeth newydd a monitro perfformiad y prosiectau.

Mae eich adborth, eich meddyliau a’ch awgrymiadau yn bwysig i’n helpu i gynllunio’r ffordd y mae’r Tîm Camau Bach yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol a llunio’r gwasanaeth anabledd ehangach o dan raglen Teuluoedd yn Gyntaf.

Hoffem ddechrau drwy ofyn i chi lenwi’r holiadur canlynol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r cwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Sarah Bolton (sjbolton@sirgar.gov.uk)

Posted in Heb Gategori

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *