Mae Tim Camau Bach yn Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar sy’n cynnig cymorth tymor byr i rieni â phlentyn anabl 0-16 oed sy’n ymwneud â materion fel cyfathrebu, cysgu, ymataliaeth, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd.

Pecynnau rhianta pwrpasol yn ymwneud ag anghenion synhwyraidd, gwydnwch  a rheoli ymddygiad ymarferol.

Cymorth yn y Cartref:

Cymorth arbenigol i annog cyfathrebu, a rhyngweithio rhwng rhieni a phob plentyn anabl 0-16 oed.

Cymorth 1:1 i rieni yn y cartref e.e.  cysgu, ymataliaeth, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd.

Pecynnau rhianta pwrpasol ar gyfer teuluoedd sy’n edrych ar anghenion synhwyraidd, gwydnwch  a thechnegau rheoli ymddygiad ymarferol.

Gweithdai Anabledd: Gweithdai arbenigol misol sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig iawn, sy’n anelu at gefnogi a hysbysu teuluoedd â phlant sydd ag anabledd.

Cymorth Grŵp 0-16 oed:

Gweithdai Prosesu Synhwyraidd a Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol.

Cymorth i rieni a boreau coffi

Bydd grwpiau cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu darparu lle mae angen a nodwyd.

Sut i Gysylltu:

Ffôn i Tim Camau Bach: 01267 246673

Ebost: DisabilityReferrals@Carmarthenshire.gov.uk

Sut i Gyfeirio:

Os hoffech wneud atgyfeiriad i Tim Camau Bach, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd at: DisabilityReferrals@Carmarthenshire.gov.uk

Ffurflen Atgyfeirio

Fel arall, sganiwch y côd QR isod neu llenwch y Ffurflen Microsoft:

Tîm Camau Bach – Ffurflen Atgyfeirio y Tîm Cymorth Cynnar

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button