Mae Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, maent yn cynnig gwasanaeth eiriolaeth ac mae ganddynt grwpiau bob pythefnos hefyd.
Carmarthenshire People First support adults with learning disabilities, they offer an advocacy service and also have fortnightly groups.
Mae Phab yn darparu lleoedd diogel a hwyliog i bobl deimlo’n annibynnol, cwrdd â ffrindiau newydd a magu hyder, gyda’i gilydd.
Ar y wefan fe welwch wybodaeth am awtistiaeth, a pha wasanaethau a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar-lein ac ar draws Cymru. Mae’r wefan yn helpu i gyflawni gweledigaeth a strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru ac mae ganddi le allweddol i sicrhau bod Cymru’n genedl sy’n ystyriol o awtistiaeth.
Mae Breakthro Llanelli yn glwb ar gyfer y rhyddhad, gofal a lles cymdeithasol, addysg, hamdden, galwedigaeth amser hamdden i blant ac oedolion yn ardal Llanelli a’r Cylch sydd ag anableddau dysgu a neu anghenion addysgol arbennig, gyda’r nod o rymuso, gwella eu cyflwr bywyd ac integreiddio â phob person yn ogystal â darparu seibiant mawr ei angen i rieni, Yn enwedig i deuluoedd un rhiant.
Elusen gofristredig lleol yw Breakthro’ Caerfyrddin. Mae’r staff yn cynnig gwasanaeth proffesiynol sydd yn rhoi cymorth i deuluoedd plant sydd ac amrywiaeth o anableddau o ein safle yn Nantgaredig.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig seibiant holl bwysig i’r teuluoedd ac gofalwyr gan gynnig awyrgylch diogel, hwylus ac gyfeillgar i’r plant. Mae hyn yn galluogi’r plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasu ac i ehangu ei datblygiad personol.