Awtistiaeth

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

 

thumbnail of 2020 Sir Gar Fforwm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i Gymru – Beth fydd hyn yn ei olygu i mi?

Yn Mawrth 2017 cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol buddsoddiad ychwanegol o £7 miliwn i gefnogi datblygu gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i Gymru. Mae hyn yn mynd â chyfanswm y nawdd ar gyfer y gwasanaeth i fyny at £13 miliwn.

Pam yr ydym wedi datblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig?

Oherwydd bod unigolion awtistig, rhieni a gofalwyr wedi dweud wrthym ni eu bod angen mwy o gefnogaeth. Maent wedi dweud wrthym ni na allant gael mynediad i wasanaethau oherwydd nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf. Maent wedi dweud wrthym ni eu bod eisiau cefnogaeth gyda:

  • Materion ymddygiad
  • Materion emosiynol megis pryder a dicter
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw dyddiol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden

Rydym wedi dysgu bod bywydau oedolion a phlant awtistig a’u teuluoedd wedi’u heffeithio’n ddifrifol oherwydd na allant dderbyn y gefnogaeth gywir, na all llawer ohonynt adael y tŷ yn ddyddiol a bod rhieni a gofalwyr yn teimlo dan bwysau aruthrol.

Rydym wedi clywed hefyd fod nifer o oedolion sy’n meddwl eu bod yn awtistig yn ei gweld hi’n anodd derbyn asesiad ar gyfer hyn.

Beth fydd y gwasanaeth yn ei ddarparu?

Bydd y gwasanaeth yn cynnig asesiad diagnostig i oedolion (weithiau ar y cyd gyda gwasanaethau eraill), cefnogaeth a chyngor i oedolion awtistig a’r sawl sy’n eu cefnogi.

Rydw i’n rhiant i blentyn awtistig – beth fydd hyn yn ei olygu i mi?

Er nad yw’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, bydd y gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gefnogi rhieni a gofalwyr.

Lle bo angen, gall y gwasanaeth hefyd weithio gyda staff eraill sy’n ymwneud â’ch plentyn fel staff ysgol neu ymwelwyr iechyd i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn yn cael cefnogaeth a chyngor cyson.

Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu hunan gyfeirio at y gwasanaeth, os yw’ch plentyn wedi cael diagnosis o Awtistiaeth byddwch yn gallu cael mynediad at hyfforddiant a chyngor gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Rwyf yn oedolyn awtistig– beth fydd hyn yn ei olygu i mi?

Os ydych chi’n oedolyn ac yn credu eich bod yn awtistig ond heb ddiagnosis, bydd y gwasanaeth yn gallu cynnig asesiad awtistiaeth os ydych chi eisiau un. Byddwch yn gallu cael cyngor a chefnogaeth gan y gwasanaeth heb orfod cael eich cyfeirio gan rywun arall. Isod mae rhai o’r heriau efallai y byddwch angen cyngor a chymorth gyda:

  • Phryder
  • Sgiliau cymdeithasol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden
  • Datblygu eich sgiliau byw dyddiol (megis talu biliau, siopa a choginio)
  • Cael mynediad at wasanaethau eraill megis gofal iechyd neu gefnogaeth i gael gwaith
  • Neu anawsterau eraill y gallwch fod yn eu profi

Byddwch yn gallu cael cefnogaeth gan y gwasanaeth heb orfod cael eich cyfeirio gan rywun arall. Bydd staff o fewn y gwasanaeth yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor i chi mewn perthynas â:

Os ydych yn oedolyn ac yn meddwl fod awtistiaeth arnoch chi ond nad oes gennych chi ddiagnosis, bydd y gwasanaeth yn gallu cynnig asesiad ar gyfer awtistiaeth i chi os ydych ei eisiau.

A fydd y gwasanaeth yn darparu popeth i ni?

Na, ni fydd y gwasanaeth yn darparu:

  • Gwaith uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc
  • Gwaith ymyrraeth brys/ mewn argyfwng
  • Gofal seibiant
  • Ymateb cyflym

Ar gyfer y rheini sydd ag anghenion fwy cymhleth (lle mae angen gwasanaethau eraill megis cymorth iechyd meddwl), bydd staff o’r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn gweithio gyda phobl broffesiynol eraill i sicrhau eu bod yn gallu cynnig cefnogaeth ‘awtistiaeth gyfeillgar’.

Rwy’n weithiwr proffesiynol beth fydd hyn yn ei olygu i mi?

Mae’r IAS yno i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ennill gwybodaeth, sgiliau a phrofiad o weithio gyda phobl awtistig.

Sut maen nhw’n gwneud hyn?

  • Hyfforddiant
  • Ymgynghor
  • Cyngor

Sut y gallaf gael gwybod mwy am y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yn fy ardal i?

Mae rhai gwasanaethau yn fwy sefydledig nag eraill, gan fod y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig wedi cael eu cyflwyno’n raddol drwy Gymru. Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybodaeth am y gwasanaeth yn eich ardal:

Caerdydd a’r Fro IAS-  www.ASDinfoWales.co.uk/cardiff-and-valeintegrated-autism-service

Cwm Taf IAS – www.ASDinfoWales.co.uk/cwm-taf-integrated-autism-service

Gwent IAS – www.ASDinfoWales.co.uk/gwent-integrated-autism-service

Powys IAS – www.ASDinfoWales.co.uk/powys-integrated-autism-service

Gogledd Cymru IAS – www.ASDinfoWales.co.uk/north-wales-integrated-autism-service

Gorllewin Cymru IAS – www.ASDinfoWales.co.uk/west-wales-integrated-autism-service

Bae’r Gorllewin IAS – www.ASDinfoWales.co.uk/western-bay-integrated-autism-service

Sut y gallaf gael mynediad at adnoddau ASDinfoWales yn y cyfamser?

E-bostiwch ni yn ASDinfo@WLGA.gov.uk neu mewnflwch ni ar Twitter, gadewch i ni wybod beth sydd ei angen arnoch chi. Byddwn yn gwneud ein gorau i’w gael i chi.

Cam Nesa

Prosiect Ewropeaidd yw Cam Nesa sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 – 24 oed sydd yn NEET (ddim mewn swydd, addysg na hyfforddiant).

Gall ein staff cymwys weithio gyda chi fel unigolyn i helpu chi fagu hyder a chewch gymorth emosiynol yn ogystal. Gydag amser cewch help i ymgeisio am swydd, neu ddilyn cwrs addysg neu hyfforddiant.

Mae ein tîm o staff proffesiynol yn cynnwys:

  • Gweithwyr Cymorth Ieuenctid Ôl-16
  • Gweithiwr Cymorth Iechyd Emosiynol
  • Gweithwyr Cymorth i Bobl Ifanc gydag Anhwylder Sbectrwm Awtistig

Ein nodau yw:

  • Adnabod pobl ifanc NEET rhwng 16-24 oed
  • Asesu sefyllfa a ffactorau unigryw y person ifanc sydd yn achosi iddynt fod yn NEET
  • Adnabod a chynnig cefnogaeth bwrpasol ac addas i’r person ifanc NEET
  • Lle bo hynny’n addas, rhoi cyngor wrth ddewis gyrfa a help i ddewis cymwysterau a gall arwain at waith yn y dyfodol
  • Cynnig profiad gwaith o ddiddordeb gyda chyflogwr pwrpasol ac addas a fydd yn cwrdd â gofynion y person ifanc NEET.

Cysylltwch â ni

Cam Nesa
Adeilad 2, Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin
SA31 3HB

camnesa@sirgar.gov.uk

01267 246699

Gwasanaeth prydlon iawn, diolch.
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button