
Grwpiau wythnosol Cwm Gwendraeth
Gweler posteri unigol am wybodaeth cyswllt
Sgroliwch i lawr ar gyfer digwyddiadau unigol

Mae Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar Cwm Gwendraeth yn brosiect a ariennir gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sydd â’r nod o gryfhau cymunedau er mwyn cefnogi teuluoedd sydd ag o leiaf un plentyn dan 5 oed.
Ein nod yw nodi pa wasanaethau cymorth i deuluoedd sydd eisoes ar gael a hwyluso gwasanaethau newydd drwy weithio gyda darparwyr presennol a newydd i wella’r ddarpariaeth yn ardal Cwm Gwendraeth.

Ni yw enillwyr balch GWOBR TÎM Y FLWYDDYN 2025 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru am y gwaith a wnawn i gefnogi plant a theuluoedd