Mannau Chwarae
Mae ansawdd y chwarae yn cael ei lywio’n sylfaenol gan yr amgylcheddau y mae’n digwydd ynddynt. Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn lle amrywiol a diogel, lle sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n rhoi amser i’r plant ymgolli’n llwyr yn eu chwarae.
Rydym yn cydnabod y gellir darparu lle ar gyfer chwarae mewn sawl ffordd a all gynnwys:
- Parciau
- Cartrefi
- Gerddi
- Mannau agored cyhoeddus
- Strydoedd
- Llecynnau gwyrdd
- Canolfannau chwarae
- Meysydd chwarae antur wedi’u staffio
- Darparwyr gofal plant
- Ysgolion
Mae darpariaeth chwarae o ansawdd yn cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ryngweithio’n rhydd â’r canlynol neu eu profi:
- Plant a phobl ifanc eraill
- Y byd naturiol
- Rhannau rhydd
- Her ac ansicrwydd
- Hunaniaeth sy’n newid
- Hapusrwydd
- Symud
- Chwarae gwyllt
- Y synhwyrau
Chwarae yn yr Ysgol
Mae amser rhydd plant i chwarae yn yr awyr agored yn fwy a mwy cyfyngedig, felly mae amser chwarae yn yr ysgol yn bwysig iawn er mwyn i blant cael hwyl, ymlacio ac i wella eu hiechyd a’u lles.
Dylai’r diwrnod ysgol ganiatáu amser a lle i blant chwarae ac ymlacio gyda’u ffrindiau. Mae plant yn treulio llawer iawn o amser yn yr ysgol ac felly mae amserau chwarae yn rhan bwysig iawn o’u diwrnod
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau i gefnogi ysgolion chwarae:
☞ Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allen i oriau aadysgu
☞ Rhestr ddarllen ar gyfer athrawon
Meysydd Chwarae di-fwg
Ar 1 Mawrth 2021, daeth cyfraith newydd i rym sy’n ei gwneud yn ofynnol i feysydd chwarae yng Nghrymu fod yn ddi-fwg. Mae’r gyfraith hefyd yn cynnwys tir ysgolion a lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd awyr agored.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud hi’n anghyfreithlon i ysmygu mewn meysydd chwarae, ar dir ysgolion a lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant.