Cymorth Cywir Adeg Cywir

Beth yw ‘Cymorth Cywir Adeg Cywir’?

Rydym yn darparu gwasanaethau i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd anghenion y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu diwallu gan eu teuluoedd a gwasanaethau cyffredinol megis canolfannau hamdden, parciau, llyfrgelloedd, ysgolion a gwasanaethau iechyd.

Bydd angen cymorth cynnar neu ychydig o gymorth ychwanegol ar rai teuluoedd i ymdopi ag ymddygiad plant, cyllidebu, cyngor ar dai, neu wella eu cymuned a’u rhwydweithiau cymorth.

Rydym hefyd yn darparu cymorth wedi’i dargedu i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau ac sydd ag anghenion lluosog, megis ymddygiad anodd ac heriol, iechyd emosiynol gwael, a deinameg gymhleth teuluol.

Bydd gan lai o deuluoedd anghenion sylweddol sy’n gofyn am Gynllun Gofal a Chymorth penodol er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt mewn perygl, a ddarperir gan Wasanaethau Plant.

Mae CYSUR (Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru) wedi cynhyrchu fframwaith “Cymorth Cywir Adeg Cywir” i egluro pa wasanaethau sydd ar gael ar wahanol lefelau o angen.

Rydym eisiau clywed gennych chi

Rydym eisiau i’r fframwaith hwn fod mor ddefnyddiol â phosibl, felly mae angen eich adborth arnom i wneud gwelliannau. Os yw gwybodaeth ar goll neu bellach yn anghywir, cysylltwch â gwybplant@sirgar.gov.uk

NODWEDDION

Angenhion Plant ag anghenion cyffredinol craidd fel rhianta, iechyd ac addysg. Yn nodweddiadol, mae’r plant hyn yn debygol o fyw mewn amgylchedd gwydn ac amddiffynnol lle mae eu hanghenion yn cael eu diwallu.


PROSES ASESU

Nid oes angen unrhyw gefnogaeth/asesiad ychwanegol ar y plant hyn y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yn gyffredinol.


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Gwasanaethau cyffredinol sy’n darparu cymorth ar y lefel hon:

IECHYD

Mae’r Ymwelydd Iechyd yn allweddol i gyflawni Rhaglen Plentyn Iach Cymru sy’n ganolog i gyflawni gwasanaeth blaengar, cyffredinol sy’n cynnig ystod o ymyriadau ataliol a chynnar.

ADDYSG

GOFAL PLANT & CHWARAE

CEFNOGAETH TEULU A RHIANTA

GWAITH IEUENCTID

CYMUNED

NODWEDDION

ANGHENION LEFEL 2

Gellir diffinio’r plant hyn fel rhai sydd angen rhywfaint o gefnogaeth neu gymorth ychwanegol i wella addysg, rhianta neu ymddygiad neu i ddiwallu anghenion iechyd.

Os cânt eu hanwybyddu, gall y materion hyn ddatblygu’n bryderon mwy pryderus i’r plentyn neu’r person ifanc.


PROSES ASESU

Nid oes angen proses asesu ffurfiol a gall asiantaethau ddefnyddio eu hadnoddau asesu eu hunain. Fodd bynnag, gellir cwblhau asesiad JAFF os ystyrir bod hynny’n ddefnyddiol.

Dylid cynnal pob cynllun gweithredu gyda’r plentyn/teulu i nodi eu cryfderau a’u hanghenion. Dylai’r cynllun gweithredu nodi anghenion ychwanegol y plentyn, gwasanaethau ac ymyriadau priodol i ddiwallu’r anghenion hynny a phwy fydd yn gweithredu fel y gweithiwr allweddol os yw’n briodol.

ASESIADAU JAFF :

Adnoddau Gweithwyr Allweddol

Rhan 1: Cais am gefnogaeth
Rhan 2: Asesiad ar gyfer cymorth gan un asiantaeth/amlasiantaeth
Rhan 3: Cynllunio, Adolygu a Chau Ar gyfer cymorth gan un asiantaeth ac amlasiantaeth


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a all ddarparu cymorth ar y lefel hon (Gellir dod o hyd i gymorth cyffredinol yn Lefel 1):

IECHYD

ADDYSG

GOFAL PLANT A CHWARAE

CEFNOGAETH TEULU A RHIANTA

ANABLEDD

GWAITH IEUENCTID

PERTHNASAU

CYMUNED

HYFFORDDIANT A CHYFLOGAETH

NODWEDDION

Anghenion Lefel 3

Mae’r lefel hon yn berthnasol i’r plant, pobl ifanc a theuluoedd hynny sy’n profi anawsterau ac sydd wedi’u nodi fel rhai sydd angen ymateb cydlynol wedi’i dargedu. Gall hyn fod drwy ddull Tîm o Amgylch y Teulu amlasiantaeth. Yn aml, gall dull Tîm o Amgylch y Teulu ddarparu cefnogaeth ddwys i deuluoedd sy’n lleihau pryderon neu’n mynd i’r afael â phryderon lluosog i leihau’r tebygolrwydd y bydd problemau’n gwaethygu.

Fodd bynnag, efallai y bydd adegau lle mae pryderon penodol ynghylch amddiffyn plant neu bryderon sy’n dod i’r amlwg ynghylch Plentyn mewn Angen pan fydd yn rhaid ystyried gwasanaethau plant statudol ar gyfer y plant hyn.

Bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau yn byw mewn mwy o adfyd na’r rhan fwyaf o blant eraill neu byddant yn fwy agored i niwed na’r rhan fwyaf.


PROSES ASESU

Lle mae angen ymyrraeth amlasiantaeth, nodir dull TAF.

Bydd angen cwblhau asesiad JAFF (Fframwaith Asesu Teulu ar y Cyd) lle bydd gweithiwr allweddol yn cydlynu Cynllun o amgylch y plentyn a’r teulu.

Os nad yw anghenion y plentyn yn glir, yn anhysbys neu heb eu diwallu a bod pryderon diogelu uniongyrchol, byddai hyn yn dangos bod y broses Lefel 4 yn fwy priodol.

Os teimlir, ar ôl cwblhau asesiad JAFF, fod anghenion y plentyn yn gwarantu ymyrraeth statudol, dylid dilyn y Protocol CAM I FYNY/LAWR (Gweler Atodiad 5).

Efallai y bydd angen cefnogaeth gan Wasanaethau Ataliol i gefnogi plentyn sy’n symud allan o wasanaethau statudol gyda chynllun gweithredu CAM I LAWR y cytunwyd arno. Gallai hyn gynnwys parhau â chefnogaeth amlasiantaeth neu asiantaeth sengl, wedi’i thargedu wedi’i chydlynu i alluogi’r plentyn a’r teulu i symud yn ôl i gefnogaeth well a chyffredinol.

ASESIADAU JAFF:

Adnoddau Gweithwyr Allweddol

Rhan 1: Cais am gefnogaeth
Rhan 2: Asesiad ar gyfer cymorth gan un asiantaeth/amlasiantaeth
Rhan 3: Cynllunio, Adolygu a Chau Ar gyfer cymorth gan un asiantaeth ac amlasiantaeth


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a all ddarparu cefnogaeth ar y lefel hon: (gweler Lefel 2 hefyd)

IECHYD

  • CAMHS ( Child & Adolescent Mental Health Services)

  • Meic (advocacy, information and advice helpline for children in Wales)

  • Amethyst (mental health support, parents & guardians)

CEFNOGAETH DEULUOL

ANABLEDD

CAM-DRIN DOMESTIG

  • Threshold (Domestic abuse organisation)

  • Calan (Domestic abuse charity)

  • Carmdas (Carmarthen Domestic Abuse Services)

NODWEDDION

Anghenion lefel 4

Plant sydd angen ymyrraeth statudol ac sydd angen Asesiad Gofal a Chymorth a, phan fo angen, Cynllun.

Plent sydd angen gofal a chymorth:
Efallai y bydd y plant hyn yn gymwys i gael gwasanaeth Gofal a Chymorth gan Wasanaethau Plant statudol ac maent mewn perygl o ddatblygu anghenion acíwt/cymhleth os na fyddant yn derbyn ymyrraeth statudol gynnar. Os caiff gweithiwr cymdeithasol ei ddyrannu, byddant fel arfer yn gweithredu fel y gweithwyr proffesiynol arweiniol ac yn cydlynu gwasanaethau.

Cysur (Mid and West Wales Regional Safeguarding Children Board)


PROSES ASESU

Bydd Gwasanaethau Plant Statudol yn penderfynu ar eu hymateb yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn yr atgyfeiriad.

Os yw’n briodol, byddant yn cynnal asesiad cymesur o anghenion gofal a chymorth plentyn ac yn cwblhau Cynllun Gofal a Chymorth. Yn dilyn hyn, gall yr achos:

  • cael ei gau
  • cael ei camu i lawr i gefnogaeth ataliol
  • cael ei weithredu

Cysylltiadau a Dolenni Defnyddiol ar gyfer adrodd pryderon am blentyn

Strategaeth ymadael
Bydd Gwasanaethau Plant Statudol yn gweithio gyda’r plentyn a’i deulu i leihau’r risg i blentyn sydd angen gofal a chymorth ac yn y pen draw, symud allan o ymyrraeth statudol fel y disgrifir yn y Cymorth Targedig.


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a all ddarparu cefnogaeth ar y lefel hon:

GWASANAETHAU ARBENIGOL I BLANT

CEFNOGAETH CYFFURIAU AC ALCOHOL

IECHYD MEDDWL

  • CAMHS (child adolescent mental health service)

  • Silver Cloud Wales (mental health & wellbeing programmes)

  • Meic (advocacy, information and advice helpline for children in Wales)

  • Chat Health (online chat service for young people)

  • Amathyst

GWASANAETHAU GWIRFODDOL A CHYMUNEDOL

(Gweler Lefel 1 & 2)

TROSEDD

NODWEDDION

Anghenoin Lefel 5

Dim ond canran fach o blant fydd yn dod o fewn y band hwn. Y plant hyn fydd y rhai sy’n agored iawn i niwed neu’n profi’r lefel fwyaf o adfyd.

Diogelu Plant
Plant sy’n profi niwed sylweddol sy’n gofyn am ymyrraeth statudol fel amddiffyn plant neu ymyrraeth gyfreithiol. Efallai y bydd angen i’r plant hyn gael eu lletya (eu cymryd i ofal) gan y Gwasanaethau Plant statudol naill ai’n wirfoddol neu drwy Orchymyn Llys.

Diffiniad
Adran 47 o Ddeddf Plant 1989. Plentyn neu berson ifanc. Pan fo plentyn mewn perygl o niwed sylweddol. Trwy esgeulustod, cam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol


PROSES ASESU

Dylai asiantaethau wneud atgyfeiriad llafar i’r Tîm Dyletswydd Canolog yn ogystal â chynnwys ffurflen atgyfeirio ysgrifenedig:
www.cysur.wales/contacts-and-useful-links/reporting-concerns-child

Bydd Gwasanaethau Plant Statudol yn penderfynu ar eu hymateb yn seiliedig ar y wybodaeth lafar fel y’i hailadroddir yn y ffurflen atgyfeirio ysgrifenedig. Os bod yna amheuaeth o gam-drin, byddant yn dilyn y gweithdrefnau Gweithio Gyda’n Gilydd fel y nodir yng Ngweithdrefnau Cymru Gyfan. Fydd penderfyniad ar chynnal cynhadledd ar sail Asesiad Plant a Theuluoedd.


ASIANTAETHAU ALLWEDDOL

Asiantaethau allweddol a all ddarparu cefnogaeth ar y lefel hon:

A gawsoch chi’r wybodaeth yr oeddech chi’n chwilio amdani heddiw?

Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Os hoffech wneud sylwadau ar ddefnyddioldeb y dudalen hon, diwygio/darparu gwybodaeth neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill ynghylch sut y gallwn wella’r dudalen hon, cysylltwch â gwybplant@sirgar.gov.uk neu roi adborth cyflym drwy ateb ychydig o gwestiynau yma.

Diolch

Doeddwn i ond eisiau anfon nodyn o ddiolch ichi am eich holl waith ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gweithio ar gasglu ychydig o wybodaeth ar gyfer menter leol i addysgu plant a phobl ifanc ynghylch canlyniadau cyffuriau ac alcohol. Rwy’n gweithio ar baratoi pamffled ac rwyf wedi dysgu llawer o’ch tudalen. Sylwais fod gennych rai adnoddau gwych iawn. Da Iawn!
Posted by Rhiant, o Sir Gaerfyrddin
Call Now Button